Oriel Davies Gallery
Y Parc, Y Drenewydd
Powys SY16 2NZ
Rhif ffôn: +44 (0) 1686 625041
Ffacs: +44 (0) 1686 623633
E-bost: desk@orieldavies.org

Amseroedd Agor Dros y Gwyliau

Rydym ar gau:


24-27 Rhagfyr


1-2 Ionawr


Amseroedd agor


28/12/19 & 04/01/20


Ar agor 9.30-3pm Sadwrn

28 Rhagfyr a 4 Ionawr


 

Ar agor 10-5 Rhagfyr 30 a 31


Ar agor 10-5 Ionawr 3


 

Mae'r amseroedd agor yn

dychwelyd i normal ar 6 Ionawr

 

Cyn hir:

Yr Angel Cyllell

04/01/20 – 31/01/20

Arddangosfa nesaf: Gareth Griffith

18/01/20 – 01/04/20

Llun-Gwener 10yb-5yh
Sadwrn 10yb-5yh
 

 

 

Mae’n bleser gan Oriel Davies gyflwyno Relish, caffi bwyd cyflawn yr oriel.

 

Dan arweiniad Lorna Lewis, Rheolwr y Caffi, mae'r tîm yn paratoi prydau blasus ar y safle, sy’n cael eu cyflwyno gyda gwasanaeth ardderchog a gwên.

Mae'r cynhwysion yn dymhorol, yn hollol ffres, ac yn cael eu prynu’n lleol pan fo hynny'n bosibl.

Mae'r bwydlenni’n cynnig dewisiadau i demtio pob chwaeth, o gawl a brechdanau cartref blasus, i brydau arbennig bob dydd fel lasagne sgwash cnau menyn, sbigoglys a ricotta neu tagine Morocaidd. Mae'r cacennau a’r bisgedi cartref a’r coffi barista sydd wedi’i rostio’n arbennig ar gyfer y caffi yn flasus dros ben. Mae opsiynau llysieuol, fegan a heb glwten ar gael bob amser.

Yn ystod misoedd yr Haf, mae’r Caffi yn ymestyn ar y teras, sy’n galluogi ymwelwyr i fwyta yn yr awyr agored.

Mae Relish wedi'i drwyddedu i werthu alcohol, ac mae’n stocio cwrw a gwinoedd gwych, a dewis gwych o ddiodydd meddal organig.

Amseroedd agor:

10yb - 5yh (cinio 12yb-2.30yh)

Mae Caffi Oriel Davies ar agor yn ystod y cyfnod pan gaiff arddangosfeydd eu gosod yn yr oriel. 

I fwcio bwrdd neu i gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch Relish ar 01686 622288.

Llogi ystafell arlwyo

Yn ystod oriau agor arferol, gallai Caffi Oriel Davies ddarparu diodydd a bwffe yn yr ystafell gyfarfod. Ffoniwch Caffi yn uniongyrchol ar 01686 622288 i drafod eich anghenion arlwyo ac unrhyw ofynion dietegol arbennig cyn dychwelyd y Ffurflen Archebu Arlwyaeth. Ffurflen archebu arlwyaeth >