Grŵp o bobl ifanc hapus ac ysgogol yw Curaduron Ifanc Oriel Davies Gallery sy’n cwrdd pob wythnos yn yr Oriel. Os ydych chi rhwng 15 a 24 mlwydd oed, gallwch chi gymryd rhan uniongyrchol mewn trefnu arddangosfeydd. Mae’r rhaglen am ddim. Does rhaid i chi fod yn astudio celf a does dim rhaid i chi fod ym myd addysg i ymuno. Yr unig beth sy’n ofynnol yw eich bod chi’n frwdfrydig a bod gennych chi rywfaint o amser i’w gyfrannu.
Caiff sesiynau eu cynnal yn yr oriel tu allan i oriau ysgol/coleg. Mae’r rhain yn cynnwys dysgu sgiliau newydd, mynd â phobl ar dripiau i orielau eraill ac ymweld â stiwdios artistiaid. Pwrpas y rhaglen Curaduron Ifanc yw gwneud ffrindiau newydd, gweithio fel tîm ac archwilio syniadau a sgiliau newydd. Fe fyddwch chi’n dysgu popeth am beth sydd ei angen i drefnu arddangosfa fawr ac yna’n trefnu un yn yr Oriel!
Mae’r Curaduron Ifanc yn gweithio gyda’r swyddog prosiect a staff yr Oriel i ddysgu ynghylch:
- Sut mae syniadau ar gyfer arddangosfeydd celf yn cael eu cynhyrchu
- Sut i ymchwilio artistiaid a gweithiau celf
- Sut mae gweithiau celf yn cael eu dewis i’w harddangos
- Gweithio gydag artistiaid cyfoes a churaduron eraill
- Pethau ymarferol fel benthyg gweithiau celf, cludo, cadw a gofalu am waith celf
- Dylunio, gosod a goleuo arddangosfa
- Dehongli & addysgu - sut i ennyn diddordeb ymwelwyr mewn arddangosfa
- Trefnu digwyddiadau cysylltiedig - agoriadau, gweithdai addysgol & digwyddiadau
- Marchnata & chyhoeddusrwydd









