Gweledigaeth
I ysbrydoli, cyffroi, ymgysylltu, herio ac addysgu trwy gelf weledol gyfoes, arloesol.
Cenhadaeth
Mae Oriel Davies Gallery yn cysylltu pobl gyda chelf mewn gosodiad gwledig unigryw, a’n darparu cyfleoedd i artistiaid o Gymru a’n rhyngwladol i greu ac arddangos gwaith celf gwych, ac i ddarparu amgylcheddau ysgogol, croesawgar lle mae artistiaid a chynulleidfaoedd yn ymgysylltu gyda, ac yn cymryd rhan mewn celfyddyd a diwylliant cyfoes.
Nodau
- Datblygu rhaglenni arbenigedd ysgogol, llawn dychymyg, sy’n ysgogi’r meddwl ac sy’n dod ag artistiaid a chynulleidfaoedd at ei gilydd.
- Rhoi llwyfan i artistiaid o Gymru yng nghyd-destun y gelfyddyd gyfoes ranbarthol, genedlaethol a rhyngwladol orau.
- Cyfrannu at yr economi leol ac at brofiadau cymdeithasol, diwylliannol, addysgol a hamdden ein cymunedau uniongyrchol ac ehangach.
- Chwilio am gynulleidfaoedd newydd ac amrywiol a chynyddu mynediad, cyfranogiad a dysgu ym maes y celfyddydau gweledol.
- Codi proffil Oriel Davies yn rhanbarthol, yn genedlaethol a’n rhyngwladol.
- Uchafu cyfleoedd i’r eithaf drwy bartneriaethau, drwy weithio ar y cyd a thrwy fentergarwch.
- Meithrin amgylchedd cefnogol, ysgogol a chreadigol lle gall staff ddatblygu sgiliau ac arbenigedd.
- Sicrhau sylfaen cadarn ar gyfer sefydliad sefydlog, hyderus a chynaliadwy sy’n gweithio gyda’r gobaith o dyfu a datblygu yn y dyfodol.






