Mae’r rhaglen Test Bed yn cael ei rhedeg ochr yn ochr â phrif raglen yr arddangosfa yn Oriel Davies, ac mae wedi’i hymroi i arddangos gwaith newydd ac arbrofol sy’n cael ei ddatblygu yng Nghymru a’r Gororau.
Mae gan Test Bed ei safle pwrpasol ei hun yn yr Oriel, ond mae hefyd yn gweithio fel ‘gofod cysyniadol’ i artistiaid i ddatblygu a dangos gwaith sydd â bywyd tu ôl i gyfyngiadau ffisegol yr Oriel.
Mae artistiaid sydd wedi arddangos gwaith fel rhan o’r rhaglen * yn cynnwys Gaia Persico, Toby Huddlestone, Akiyo Yamamoto, Matthew Wood, Sue Challis , Melissa Hinkin, Ian Giles, Digital Dialogues, Bela Kerr, Elen Bonner, Alex Duncan ac Adele Vye.
*Yn 2009, newidiodd enw’r rhaglen o’r enw gwreiddiol In Focus, i Test Bed, i gynrychioli’n fwy cywir y cyfleoedd mae Oriel Davies yn darparu ar gyfer gwaith arbrofol a gwaith sy’n datblygu.
Artistiaid Os ydych chi’n artist a hoffai gael eich ystyried ar gyfer arddangosfa Test Bed, lawrlwythwch y manylion cyflwyno >.
Am ragor o wybodaeth, ymholiadau, ac i anfon ceisiadau, anfonwch e-bost at: testbed@orieldavies.org
Test Bed, Oriel Davies Gallery, Y Parc, Y Drenewydd, Powys, SY16 2NZ






