
Oriel Davies Gallery shop © Mark McNulty
Oriau Agor Llun - Sadwrn 10 - 4
Y Gwanwyn a’r Haf hwn, rydym yn falch o gyflwyno casgliad newydd sbon o syniadau am anrhegion at ddant pawb, sydd oll yn cael eu harddangos yn siop yr oriel, sydd newydd gael ei haddurno. Ceir arddangosfa syfrdanol o anrhegion unigryw cyfoes, gemwaith hardd wedi'u gwneud â llaw, tecstilau a chrefftau, llyfrau diddorol a deunydd swyddfa yn Gymraeg a Saesneg, nwyddau steilus i’r cartref, teganau plant a llawer mwy i gipio’r dychymyg. Mae Oriel Davies yn le perffaith i siopa am yr anrheg arbennig hwnnw. Rydym yn cynnig Talebau Rhodd, brynu darnau unigryw o gelf a chrefft gyfoes dros gyfnod o ddeg mis yn ddi-log. Mae'r cynllun yn berthnasol os byddwch yn prynu darnau sy'n werth dros £50.
Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau ynghylch y siop ac archebion, cysylltwch â Rhian Davies, Rheolwr Manwerthu drwy ffonio 01686 625041 neu drwy anfon e-bost at: rhian@orieldavies.org
Anrhegion & Chynnyrch
Gemwaith
Cyhoeddiadau Oriel Davies
i Blant
Llyfrau & Chylchgronau
Ymwelwch â Siop ODG i weld ystod amrywiol o nwyddau sy’n cynnwys llyfrau a chylchgronau celf, anrhegion a deunydd ysgrifennu gan gynllunwyr, teganau a llyfrau i blant ac ystod eang o emwaith a chrefft unigryw gan wneuthurwyr sy’n adnabyddus yn rhanbarthol a’n genedlaethol.
Gellir prynu’r rhain o siop yr Oriel a thrwy archebu drwy’r post. Nid ydym yn gallu cynnig gwasanaeth siopa ar-lein, ond gellir archebu’r holl eitemau a ddangosir dros y ffôn, a gallant gael eu hanfon allan yr un diwrnod, wedi’u lapio fel anrheg os ydych yn dymuno.
I werthfawrogi ein hamrywiaeth lawn, dewch i mewn i gael golwg. Yn aml, ceir cynigion arbennig ar eitemau penodol, ac mae rhywbeth arbennig i bawb bob amser.
Gostyngiadau
Mae myfyrwyr yn derbyn gostyngiad o 15% ar lyfrau. Mae cyfeillion ODG yn derbyn gostyngiad o 10% ar bob archeb dros £5. Pam na wnewch chi ymuno â chynllun Cyfeillion ODG, a mwynhau rhagor o fanteision.
Tocynnau Anrheg
Mae Tocynnau Anrheg gwerth £10, £20 a £50 ar gael. Gallai’r rhain gael eu defnyddio ar gyfer pob eitem yn y siop, ac maen nhw’n gwneud gwobr hyfryd.
Mae’r holl elw o’r pethau sy’n cael eu gwerthu yn Siop ODG yn cynorthwyo i gefnogi rhaglen arddangosfa, gweithgareddau addysg a gwasanaethau i ymwelwyr Oriel Davies.