Caiff Ystafell Ddarlithio a Chyfarfod ODG ei llogi i grwpiau o bob rhan o Gymru a thu hwnt sy’n manteisio o’n lleoliad canolog, o’n cyfleusterau glân a modern, ac o’n gwasanaeth arlwyo gwych.
Cyfleusterau
Mae ein cyfleuster Llogi Ystafell yn gweddu amryw o anghenion cyfarfod, hyfforddi a chynadledda. Mae gan ein hystafell le i hyd at 40 o bobl (mewn steil darlithio), a lle i hyd at 25 o bobl (mewn steil ystafell fwrdd), a’n nod yw gwneud eich digwyddiad a’ch profiad yn llwyddiant.
ffioedd am logi ystafell>
ffurflen gais am archeb >
Llogi lleoliad
Mae posibiliad y gallai mannau eraill o’r adeilad, gan gynnwys y prif orielau arddangos, fod ar gael i’w llogi ar adegau penodol o’r flwyddyn ac ar gyfer achlysuron arbennig. Cysylltwch ag Amanda Farr, y Cyfarwyddwr, ymhell o flaenllaw ar 01686 625041 neu anfonwch e-bost at: amanda@orieldavies.org i drafod eich gofynion.
Offer
Mae amryw o offer ar gael, sy’n cynnwys taflunwyr amlgyfrwng digidol, taflunwyr sleidiau, uwch-daflunwyr a siartiau fflip. Sylwer bod rhai gwneud cais am yr holl offer o flaenllaw.
ffioedd am offer >
Arlwyo a lluniaeth
Yn ystod oriau agor arferol, gallai Caffi Oriel Davies ddarparu diodydd a bwffe yn yr ystafell gyfarfod. Ffoniwch Alice Thomas, perchennog y Caffi yn uniongyrchol ar 01686 622288 i drafod eich anghenion arlwyo ac unrhyw ofynion dietegol arbennig cyn dychwelyd y Ffurflen Archebu Arlwyaeth. ffurflen archebu arlwyaeth >
Bwcio
Am ragor o wybodaeth ynghylch llogi a bwcio ystafell, cysylltwch â Samantha yn yr oriel drwy ffonio 01686 625041, drwy anfon e-bost at: desk@orieldavies.org neu llenwch y ffurflen gais isod a bydd rhywun yn ateb eich ymholiad cyn gynted â phosib. ffurflen gais am archeb >
Cyfeiriwch at y telerau ac amodau ar waelod y dudalen hon.






