Dosbarthiadau Bywluniadu Paul Webster

Mae'r sesiynau difyr hyn, gyda thiwtor, yn annog cryfderau unigol, tra’n archwilio agweddau gwahanol o dynnu llun y ffigwr dynol. Mae'r ... mwy >

Rangoli: Art that Binds

Following the success of the 2017 Rangoli: Art that Binds project, as part the India/ Wales season of events with the mwy >

Oriel Davies Gallery
Y Parc, Y Drenewydd
Powys SY16 2NZ
Rhif ffôn: +44 (0) 1686 625041
Ffacs: +44 (0) 1686 623633
E-bost: desk@orieldavies.org
 
Llun-Gwener 10yb-5yh
Sadwrn 10yb-4yh
 

 

 

Traethodau

Torri Cwys

Arddangosfa: Y bore hwnnw, gwyliodd y wawr yn torri
Dyddiad: Chwefror 2009
Ysgrifennydd: Louise Short
Cyhoeddiad: That morning he watched the dawn
Cyhoeddwr: Oriel Davies Publications

Maestref Los Angeles, Riviera Lloegr, canol tref Caracas neu Geredigion, mae’n wirionedd diymwad fod lle cafodd rhywun ei fagu yn cael effaith ddofn ar ei hunaniaeth. Mewn diwylliant sydd, am nifer da o resymau, yn synfyfyrio ar fanylion hunaniaeth ddiwylliannol, nid yw’n syndod gweld arlunwyr yn trafod materion fel hyn mewn ffyrdd gweledol. Gellir cyhuddo rhywun o arwynebolrwydd wrth ddiffinio elfennau gwaith arlunydd yn ôl eu tarddiadau ffisegol, yn enwedig os yw'n tueddu i ystrydebu. Gyda’r ystyriaeth yma ym mhlaenaf yn fy meddwl byddaf yn archwilio sut mae gwaith Carwyn Evans yn amau’r gynsail diriogaethol hon o ran cymdeithas, daearyddiaeth a diwylliant.

Sut ddelwedd mae Cymru wledig yn ei godi ym meddwl rhywun? Sut mae’r gwir a’r dychmygol yn cael eu dehongli heddiw? I rai ohonom ni, daeth cefn gwlad yn ddim ond golygfa neu ar y gorau yn faes y gad. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae trychineb Chernobyl, BSE, clwy’r traed a'r genau, y parciau themâu Disneyesque Celtaidd sy’n codi fel madarch, heb sôn am effaith deddfau'r Undeb Ewropeaidd a’i effaith ar ffermio defaid, wedi newid llawer ar gymunedau gwledig Cymru. Mae cymunedau gwledig Cymru’n teimlo’n dyfnach fod diwylliant Cymru’n cael ei fwrw o’r neilltu. I Carwyn Evans, daeth y materion yn ganolog i’w waith presennol; er nad yw’n cyd-fynd gyda’r diffiniad o un ai hanfodwr rhamantaidd neu fformalydd Cymreig cyfoes. Mae Carwyn wedi cofleidio’r dywediad dwys (yn wir, ffeministaidd) ‘Mae’r personol yn wleidyddol’. Mae’r gwaith gymaint ynghylch ei berthynas â’i deulu (yn enwedig ei dad) ag ynghylch y syniad o 'famwlad' ddiflanedig.

Yn Offer Llaw (t.10-11 & 36-37) mae offer ffermio wedi’u gwneud o gastiau o ddwylo ei fam a’i dad yn cyfeirio at y cysylltiad corfforol â’r ddaear trwy’r cenedlaethau. Gellir eu defnyddio fel offer amaethyddol gan eu bod wedi’u creu o fetel caled ac eto maen nhw’n dangos olion tynerwch a nerth dwylo dynol sy’n ‘adnabod y tir’. Bu teulu Carwyn yn ffermio yn ac o amgylch Llandyfrïog am ddeg mlynedd ar hugain a chyn bo hir daw'r ffordd yma o fyw araf i ben wrth i’w rieni'n heneiddio a chyrraedd oed 'ymddeol’. Mae’r cerflun hwn yn bortread teuluol nerthol sy'n nodi ennyd arwyddocaol mewn amser. Dangosir arwyddion o newid mewn ffyrdd sensitif, tebyg, trwy set o bortreadau o weithwyr Pwylaidd o'r lladd-dy lleol (Meddwl am Adref, t.38-43). Wrth iddyn nhw feddwl am ‘gartref’ gyda’u llygaid yng nghau, allwn ni ond dychmygu pa ddelweddau sy’n cael eu creu ym meddyliau’r gweithwyr o fewnfudwyr hyn. Mae cyswllt anorfod rhwng y cof a ffotograffiaeth fel sydd yng ngwneuthuriad mynegrifol olion bysedd. Daw ‘Labour Anonymous’ Walker Evans i’r cof. Tynnodd Walker Evans bortreadau o weithwyr yn cerdded i ac o’r gwaith ar strydoedd Detroit ym 1946. Fel llawer o'i waith, roedden nhw’n cael eu gweld yn cynrychioli'r ‘gwir' America'r adeg hynny yn hytrach na rhyw syniad o’r freuddwyd Americanaidd. Yn ôl yng Nghymru gyfoes mae pedwar cant ac ugain o bobl yn gweithio yn y lladd-dy yn Llanybydder. Yno, mae cig oen wedi'u magu yng Nghymru yn bennaf yn cael eu dosbarthu, eu lladd a'upacio gan amcangyfrif o ddau gant a deg o Bwyliaid, hanner cant o weithwyr o wledydd megis Slofacia, Portiwgal a'r Weriniaeth Siec a chant chwedeg o weithwyr lleol*. Mae’r dref yn ymfalchïo yn ei Polski ‘Sklep’ ei hunan (y cyn siop cigydd lleol) sy’n gwerthu nwyddau Pwylaidd cyfarwydd i’r mewnfudwyr. Mewn Iddew-Almaeneg mae’r gair ‘schlep’ yn golygu taith lafurus, llusgo neu dynnu. Newid ddaeth o rod i rod yn wir.

Mae Symudiad (Bro Dyfriog) (t.6-9) yn awgrymu golwg mwy sinistr ar newid. Mae'r bygythiad o ddieithriaid yn meddiannu'r pentref yn raddol, yn wir gartref rhieni Carwyn, yn cyflwyno dilema sydd wedi’i fynegi o’r blaen yn ei waith. Mae siaradwyr Cymraeg yn symud allan o’r pentrefi, eiddo’n cael ei werthu i bobl ddieithr ac ystadau o dai newydd sy’n cael eu datblygu yn dod â phroblemau newydd, digroeso, i’r cymunedau sydd wedi gwreiddio’n ddwfn yn yr ardal. Mae Ymddangosai popeth mor syml a phrydferth (t.18-21) yn gasgliad o dioramas bychan o safleoedd sydd o dan fygythiad yn yr ardal (ysgol wledig, siop y pentref ac adfeilion ffermdy er enghraifft) sydd, ar yr un pryd, yn lleoedd i lanio yn ogystal â bod yn lleoedd cysgodol i orffwys a myfyrio yn eu cylch. Unwaith eto mae’r cyfeiriad at ffoi yn awgrymu mewnfudo ac allfudo, i mewn ac allan.

Mae nythaid o fyrddau’n yn cael ei ddangos wedi’u rhychu gan yr aradr (Troi, t.24-27). Mewn ymdrech i ddianc o’r cylch cymdeithasol gall rhywun disgyn i fagl y math o rodres sy’n gynhenid ym moesgarwch y bwrdd coffi, neu nythaid o fyrddau sy’n sefyll yn gysglyd nes y daw’r ficer am de bach. Drwy rychu i'r byrddau, mae Evans yn torri trwy'r haen wyneb, gan hollti'r pren. Drwy ddryllio’r arwyneb (yn dynwared medr a deheurwydd yr yr aradwr yn y cae) mae’n dinoethi gwir natur y dodrefn rhad, yn ymestyn ei arwynebedd ac yn dinistrio’i bolish ffrengig ffug. Yn ysgythriadau rhagorol Carwyn o gaeau wedi’u haredig, mae’n rhoi sylw i dorri’r rhych a dilyn hyn drosodd a throsodd, fel petaem yn gorfod dilyn y sianel (neu’r rhigol) gwreiddiol.

Yn y darlun athronyddol dwfn Tirlun gyda chwymp Icarws (1) mae Breugel yn dangos ymdrech aruthrol Icarws i ddod yn dduw. Canlyniad ei ymdrech oedd methiant disylw, gan fod yr yr aradwr wedi parhau gyda thasg llawer pwysicach aredig ei gae ar ben y clogwyn a methodd weld y sioe o Icarws yn disgyn ar ei ben i’r môr islaw. Mae’r llun yn dangos un o’r cyhuddiadau pennaf yn y gred o ragoriaeth dyn dros natur.

Mae cyd-destun ymarfer Carwyn wedi’i greu trwy ddealltwriaeth ddofn o iaith weledol, hanes a thirlun. Mae llawer o agweddau cymhleth a chroes i’r gwaith gan gynnwys colled, dathlu a hiwmor dynol. Mae llwyddo i ddangos sefyllfeydd anodd fel hyn yn beth brin.

Louise Short, artist a churadur, Ionawr 2009

1. Tirlun gyda chwymp Icarws. c.1558. Olew ar gynfas, wedi’i osod ar bren.
Musees Royaux des Beaux-Arts de Belgique, Brwsel.
* Yn ôl Carwyn Evans fis Ionawr 2009.

Artist a churadur yw Louise Short sydd wedi arddangos yn eang yng Ngorllewin a Dwyrain Ewrop, y Dwyrain Canol ac Awstralia, ac y mae ei gwaith yng Nghasgliad Cyngor Celfyddydau Lloegr. Hi yw sefydlydd a chyfarwyddydd STATION, canolfan ymchwil a datblygu ar gyfer celf ym Mryste. Mae artistiaid preswyl a fu yno yn cynnwys Phyllida Barlow, Louis Nixon, a Michael Snow ymysg sawl arall. Hefyd, fe gydsefydlodd ALLAS, (y Gwasanaeth Cynghori ar gyfer Mentrau dan Arweiniad Artistiaid), sydd wedi bod yn cefnogi mentrau dan arweiniad artistiaid yn Ne Orllewin Lloegr am y deng mlynedd diwethaf. Ar hyn o bryd, mae hi’n Uwch Ddarlithydd mewn Celfyddyd Gain ar lefel raddedig ac ôl-raddedig yn Athrofa Prifysgol Cymru, Caerdydd, ac yn Ddarlithydd Cyswllt ym
Mhrifysgol Plymouth ac yn Ysgol Gelf Camberwell.