Oriel Davies Gallery
Y Parc, Y Drenewydd
Powys SY16 2NZ
Rhif ffôn: +44 (0) 1686 625041
Ffacs: +44 (0) 1686 623633
E-bost: desk@orieldavies.org
 
Llun-Gwener 10yb-5yh
Sadwrn 10yb-5yh
 

 

 

Traethodau

Y Gofod Rhwng: Camadnabyddiaeth hanesyddol a’r Gwirionedd mewn Peintio

Dyddiad: Chwefror 2008
Ysgrifennydd: Chris Townsend
Cyhoeddiad: Becoming Modern
Cyhoeddwr: Oriel Davies Publications

Efallai mai nodwedd fwyaf arwyddocaol peintiadau Simon Grennan a Christopher Sperandio yw’r bwlch rhwng y delweddau sy’n ymddangos fel pe baent wedi eu cyfuno ar bob panel. O fewn y plân gwastad o gynrychiolaeth ceir bylchau mor anfesuradwy, mor annealladwy â’r gwactod rhwng y dychymyg a’r byd hanesyddol, eu pynciau a’u dychymyg a byd modern yr artistiaid, y peintwyr Chineaidd a gyflawnodd y gweithiau hyn i fanylebau’r artistiaid, a ni ein hunain fel gwylwyr. Cedwir y gwactodau hyn mewn daliant mewn dau arwyneb cwbl ddi-ddyfnder - un, arwyneb peintio clasurol, sy’n hyrwyddo dyfnder yn hunanymwybodol, dyfnder fel agwedd o’r cyflwr dynol, a’r llall, yn ei atgynhyrchiad o’r arwyneb hwnnw a’i ddryswch yn cynrychioli mewnoli, dwyster, dyfnder profiad, fel dim byd mwy na ffasâd. Os gallem ddehongli gwaith Grennan a Sperandio fel beirniadaeth o ystyr, nid yn lleiaf yn ei strategaethau o orymddwyn a gorbeintio ar weithiau ‘clasurol’, byddwn yn awgrymu mai eu ‘gwir’ destun - eu hargymhelliad o ‘ystyr’ mewn byd lle nad oes gan gelf unrhyw ystyr, dim ond y cynnig o arwyddocâd y mae bob amser wedi honni sydd iddo - yw’r bwlch hwn. Yn hytrach nag atal cynnwys y delweddau y maent yn eu cuddio, neu wrthddweud y gwirioneddau a ddychmygwn y mae’r gweithiau hyn yn eu cynnig fel rhai lledrithiol (yn bennaf drwy gyflwyniad o ‘harddwch’) yng nghymhlethdod eu hadeiladu mae’r gweithiau hyn yn pwysleisio ac yn rhoi sylwadau ar fwlch sy’n bodoli rhwng y presennol a’r gorffennol. Mae’r bwlch hwnnw ar unwaith yn cael ei gywasgu - themâu’r gorffennol a’r presennol mewn palimpsest sy’n awgrymu bod yr ‘ystyr’ a ddeellir sy’n gynhenid mewn celf yn ddychmygol yn ei hanfod - ac fe’i hehangir, fe’i pwysleisir drwy ddadgysylltiad o ffurfiau a dulliau o gynrychiolaeth.

Nid yw’r hyn y mae Grennan a Sperandio felly yn eu creu yn pastiches di-ddyfnder a ddeellir mor aml sy’n nodweddu celf post-foderniaeth. Nid yw’r peintiadau hyn ychwaith yn amlygiadau syml o honiad ffug o arwyddocâd drwy ‘beintio’ fel traddodiad o gynrychiolaeth a dyfnder. Mae ‘ystyr’ yn y gwaith hwn yn rhywbeth mwy cymhleth na naill ai’r cynnig syml i’r sawl sy’n gwylio o wirionedd allanol a gwell, nac o ddileu ystyr a ddarperir gan rai artistiaid modernaidd ac ôl-fodernaidd. (Byddai difwyniadau gwarthus y brodor Chapman o Goya yn bwynt cymharu ac yn bwynt i symud oddi wrtho yma.) Yn hytrach, mae ystyr yma yn rhywbeth sy’n strategol dawel, yn gudd ac efallai hyd yn oed yn anfwriadol, sy’n bodoli yn y broses o’i ddiddymiad ei hun. Mae’n rhywbeth hefyd sy’n llawer mwy anodd: mae’n gwneud gofynion arnom o ran dehongli, o ran ‘darllen’ y peintiad – er y byddai dychmygu’r peintiad fel testun mewn rhyw fodd yn rhoi braint anghyfiawn i ysgrifennu dros y ddelwedd. O ganlyniad mae’r gwirionedd mewn peintio yn dod yn rhywbeth sy’n deillio o’n hymdrech ni ein hunain, ac a all, os yw’n bodoli yn unrhyw le, fod yn gynnyrch ­ yn hanesyddol yn hytrach nag yn eiddo cyffredinol, trosgynnol y gwaith celf. Mae ystyr felly yn ddigon ansefydlog i fod y math o endid y gallem atodi berf yn hytrach nag enw wrtho. Mae’n eiddo ein cysylltiad â’r gwaith celf, a’n lle yn y byd. Ni ddaw atom wedi ei wneud yn barod, gyda’i rannau wedi eu rheoli, yn eiddo amgyffred uwch gan artistiaid. Nid yw ystyr yn preswylio; mae’n mudo.

Pwnc ymddangosiadol Grennan a Sperandio yw teithiau Gwendoline a Margaret Davies yn yr Eidal ym 1909. Ond gallem ddweud mai pwnc mwy'r peintiadau hyn yw hanes ei hun, ac yn arbennig hanes problematig y rhagdybiaeth broblematig fod gwirionedd sefydlog mewn celf. Gellid ystyried bod y daith i’r Eidal - ail daith y chwiorydd - yn barhad o addysg mewn hanes celf a oedd wedi mynd â Margaret yn gynharach i astudio yn Dresden. Er bod Gwendoline a Margaret eisoes yn gasglwyr, roedd y teithiau hyn i raddau pendant iawn yn ymwneud â dysgu. Roedd y chwiorydd Davies yn ymgorfforiad o symudiad hanesyddol sylweddol. Os oedd ysbeilio trysorau celf yr Eidal gan ardalyddion a barwnigiaid o Ogledd Ewrop yn ystod ‘Oes y Goleuo’, yn cael ei awgrymu wrth sefydlu athroniaeth o farn esthetig (yng ngwaith ysgrifennu Emmanuel Kant) a hanes cynhyrchu delweddau (a ddatblygwyd yn y ddeunawfed ganrif drwy waith Winklemann) erbyn blynyddoedd cynnar yr ugeinfed ganrif roedd y sgyrsiau a oedd yn gysylltiedig ag athroniaeth a hanes wedi disodli’r sgyrsiau ar gaffaeliad. Yn wir, roedd y casglu di-drefn ar wrthrychau a oedd yn nodweddu ‘caffael’ yn y ddeunawfed ganrif wedi ei ddisodli yn ddiweddar yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg gan ‘gasglu’, lle roedd celf hanesyddol a chyfoes yn cael ei brynu ar sail gwybodaeth a chwaeth a gaffaelwyd yn barod, a feithrinwyd drwy hyfforddiant ffurfiol, ac a wnaed gyda chyngor cynghorwyr medrus. Mae Gwendoline a Margaret Davies felly yn rhan o’r newid mawr mewn hunaniaeth ddynol yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a nodwyd gan Michel Foucault, lle caiff hunaniaeth rhywun ei ddeall gan yr hunan, a’i ddosbarthu gan eraill, yn nhermau lled-wyddonol ‘gwybodaeth’. Maent yn perthyn i, yn wir maent yn helpu i ddiffinio, diwylliant lle gall gwybodaeth am bethau wneud newid moesol: bydd amlygiad i, dealltwriaeth o, ddiwylliant yn eich gwneud yn ‘well’ bod dynol. Byddai rhywun yn casglu gwirionedd yn y modd y gallai rhywun gasglu peintiadau.

Mae angen inni ychwanegu at y gwahaniaeth hanesyddol hwn gyda symudiad pellach, un sy’n diffinio’r chwiorydd Davies yn eu cysylltiadau cymdeithasol i raddau pendant iawn. Mae hefyd yn newid sy’n hawlio’r rhwyg rhwng cynrychiolaeth a hanes sy’n nodweddu peintiadau Grennan a Sperandio. Lle mae’r ddelwedd a’r goddrychedd y dylid ei gysylltu’n glos ag ef - os yw’r honiadau ynghylch ystyr a gwirionedd mewn ‘celfyddyd uchel’ yn ddilys - maent yn ymddangos yma fel pe baent yn arnofio yn annibynnol oddi wrth ei gilydd. Mae delwedd a phrofiad a gynrychiolir, y pwnc a phrofiad hanesyddol, yn bell oddi wrth ei gilydd, er eu bod yn gwneud honiadau diddiwedd am eu hundod. Byddwn i yn awgrymu bod hyn yn deillio yn rhannol o darddiad cyfoeth y chwiorydd Davies yn nghyfalafiaeth mercantilaidd a diwydiannol y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn hytrach nag yn y systemau amaethyddol a systemau perchnogaeth yn seiliedig ar adnoddau'r aristocratiaeth. Ond nid yw hyn yn cyflwyno’r ddadl oherwydd eu bod yn wyresau i filiwnydd a greodd ei gyfoeth ei hun ac a oedd fel arall o darddiad di-nod fod Gwendoline a Margaret yn teimlo eu bod yn cael eu cymell i gaffael gwybodaeth a chelf fel iawn am etifeddiaeth gymdeithasol annigonol. Yn hytrach, byddwn i’n dadlau fod ‘diwylliant’ (fel gwybodaeth a chelf) yn cymryd arno rôl wahanol o fewn cyfalafiaeth ddiwydiannol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ac mae’r hyn mae’r chwiorydd yn ei wneud, o ran ei gaffael ac yna ei ddosbarthu, yn arwydd o hyn. Yr hyn sydd yn y fantol drwy eich diwyllio gweledol yw nid eich statws cymdeithasol per se, ond yn hytrach y math o fod dynol ydych chi, a’ch perthynas â bodau dynol eraill. Mae’r posibilrwydd o drawsnewidiad goddrychol drwy brofiad neu wybodaeth yn amherthnasol yn oes yr aristocratiaid, oherwydd na all fod unrhyw symudiad rhwng dosbarthiadau. Mewn oes lle gwneir symudiad o’r fath yn bosibl, naill ai drwy fedr entrepreneuraidd neu drwy siawns, yn hytrach nag o anghenraid wedi ei sefydlu ar enedigaeth, mae’r gallu i wella’r hunan, yn wir i unrhyw un fod yn ‘hunan’, yn dod yn warant o sefydlogrwydd yn yr hyn a fyddai fel arall yn bresgripsiwn ar gyfer anhrefn cymdeithasol, gyda’r byd a’i gyfoeth yn nwylo crachfonheddwyr, newydd-ddyfodiad a phobl sy’n manteisio ar gyfle. Mae rhan o ‘gaffael’ diwylliant yn golygu caffael ‘gwirionedd’ fel cyflwr teimladwy a dychweliad y ‘gwirionedd’ hwnnw mewn celf drwy roi yn ôl i’r cylch cyhoeddus yr hyn fyddai, yn flaenorol, wedi parhau yn gasgliad cwbl breifat. Yn sail i hyn mae rhagdybiaeth o botensial goddrychol nad yw’n cael ei adlewyrchu mewn cyfoeth a statws sydd wedi eu crynhoi, nad oes unrhyw wahaniaeth rhwng rhoddwyr a derbynwyr yn nhermau eu galluoedd cymdeithasol a deallusol. Yn hytrach na bod ‘ystyr’, ‘gwirionedd’ a ‘harddwch’ yn cael eu cyfyngu i unigolion o ‘ansawdd’ fel ag yr oeddent yn y ddeunawfed ganrif, gall pawb ei gydnabod - fel effaith allanol - pan welant ef a chael eu heffeithio ganddo mewn ffyrdd sydd, mae’n debyg, yn anwybyddu’r dylanwadau hynny o sefyllfa gymdeithasol a seicoleg a allai effeithio fwyaf ar ei ddarllen.

Mae casglu celf felly yn ymgymeriad sy’n gysylltiedig â gwella’r hunan a gwella’r sffêr gyhoeddus. Efallai fod hyn ychydig yn anodd i’w gydnabod o ystyried eich bod yn darllen hyn wrth gerdded o gwmpas oriel gelf gyhoeddus neu yn fuan ar ôl hynny, i edrych ar waith celf cyfoes sydd wedi ei gomisiynu’n gyhoeddus a rhai gweithiau hardd o’r casgliad a roddwyd i bobl Cymru gan y chwiorydd Davies. Ond mae’r bwlch rhwng y gweithiau hynny a pheintiadau Grennan a Sperandio yn adlewyrchu pa mor amhosibl yw cydnabod y syniad hwn. Nid yw’r ‘amhosibilrwydd’ hwnnw er hynny yn ganlyniad dirywiad hanesyddol. Nid yw’r gweithiau celf a roddwyd gan y chwiorydd Davies yn greiriau o oes well pan allai celf fod yn llawn gwirionedd a harddwch nad yw’n cael ei werthfawrogi, neu lle mae hyd yn oed yn cael ei watwar yn ein hoes lygredig, ôl-fodernaidd, ôl-ystyr ni ein hunain. Mae’r gwacter rhwng gweithiau hanesyddol ac ymyraethau modern, os yw’n rhywbeth, yn ganlyniad yr addewidion ffug a wnaed gan ac ar ran celf yn gyffredinol. Mae gwaith fel What do I know about it? yn awgrymu efallai, y berthynas hon o annealltwriaeth wrth i laslanciau modern a gymerwyd o ffotograff, ynysu a llifo o amgylch ffigur canolog sy’n ymddangos fel pe bai’n dod o beintiad cyn-Raffaëlaidd. Ond mae’r hyn sy’n ymddangos fel gweddill hanesyddol o amser gwell yn cael ei gymryd ei hun o gatalog cyfoes o ddelweddau stoc. Mae’r glaslanciau, a allai fod yn ffans pop wedi eu gwisgo’n drwsiadus mewn dillad o’r 1960au cynnar, mae’n debyg yn cymryd rhan mewn seremoni Gatholig. Mae’r ffigur canolog, os yw’n cynnig gwirionedd inni, yn dweud wrthym fod y cysyniad rhamantus fod gwirionedd yn harddwch a harddwch yn wirionedd wedi ei briodoli i gyflwr cyffredinol o gynhyrchu delweddau lle mae presenoldeb yn fwy arwyddocaol na chynnwys symbolaidd. (Cyfeirir at yr ‘eiconig’ felly drwy’r hyn sydd wedi ei fasgynhychu a’i fasddefnyddio - daw peintiad fel Sunflowers Van Gogh yn ddim mwy na delwedd o flodau; mae Lady of Shallot Waterhouse yn colli unrhyw synnwyr o fanylder hanesyddol a oedd yn cyd-fynd â’i gynhyrchu - er enghraifft ei wrthwynebiad rhamantaidd i foderniaeth ddiwydiannol - i ddod yn ddelwedd llawn o gyfeiriadau rhamantaidd a gynhyrchwyd gan foderniaeth ddiwydiannol.)

Ond os trown wedyn at Paris Grande Palais (tud. 32), gwelwn Grennan a Sperandio, efallai, yn awgrymu bod delwedd bob amser yn ddim ond delwedd, a gynhyrchir fel darlun ‘hardd’ yn hytrach nag fel ‘gwirionedd’ darluniadol. Nid oes unrhyw eiliad o golled hanesyddol, pryd mae’r eiconig yn dod yn gerdyn post. Roedd y statws a roddwyd i beintio, hyd yn oed yn eiliad ei gynhyrchu, bob amser mor chwedlonol â’i gynnwys. Mae gan Paris Grande Palais atgynhyrchiad wedi ei wyrdroi o L’éveil du Coeur (1892) gan Adolphe-William Bouguereau fel sail iddo, sydd wedi ei guddio’n rhannol gan gyflwyniadau digidol lliwgar o’r hyn a allai fod yn strwythurau moleciwlaidd (mewn geiriau eraill cyflwyniad gweladwy o rywbeth yr un mor anghyffyrddadwy a dychmygol â deffroad y galon, fel y cyflwynir hynny yn stori Cupid a Psyche ...). Sentimentaleiddio’r chwedl Roegaidd gan Bouguereau oedd y math o beintiad y gallai’r chwiorydd yn hawdd fod wedi ei weld yn y Salon ym Mharis ar eu ffordd yn ôl o’r Eidal. (Nid wyf yn meddwl y gallai hon fod y math o ddelwedd y gallent fod wedi ei phrynu’n hawdd...) Mae bellach yn llun y gallwch ei brynu, fel unrhyw beth o ‘brint celf’ i ‘beintiad olew safonol mewn amgueddfa’ drwy ryw 500 o safleoedd ar y rhyngrwyd. Roedd yn ddelwedd y gallech ei phrynu, o fewn degawd o’i harddangos am y tro cyntaf, wedi ei masgynhyrchu ar blaciau porslen gan y cwmni o Berlin KPM (Köningliche Porzellan Manufaktur). Mae’r hanes hwn o atgynhyrchu a dosbarthu yn awgrymu bod pa bynnag werth o ran ‘awra’ a allai fod gan y peintiad gwreiddiol, fod hynny wedi ei ledaenu yn fuan. Roedd y peintiad yn bodoli yn fwy fel delwedd i’w chopïo ac i ffurfio cefndir addas i fywyd, yn hytrach nag i fod yn waith celf y gallai ei gynnwys newid bywyd y sawl a edrychai arno. Ond eto dyna yn union beth rydym yn dymuno i waith celf ei wneud gyda’i wirionedd a’i ystyron. (Rwy’n meddwl yma am ddadl Theodor Adorno yn ei draethawd Commitment am bw^er trosgynnol haniaeth yn Kafka, Beckett neu Beethoven yn erbyn manylder gwleidyddol Brecht. Ond efallai yr hoffem wneud yr un ddadl dros beintiad – efallai Guernica neu Death of Maximilian gan Manet – sef ar ôl dod i gyffyrddiad â nhw na fyddwn fyth eto yr un fath.) Ond eto pwynt un o’r gweithiau hyn, darlun Manet, o leiaf fel yr honna Georges Bataille, yw ar ôl y gwaith na allwn ond bod yr un fath eto, gymaint yw ei gynrychiolaeth o’n difaterwch. Efallai mai nod y gwaith celf, yn hytrach na’r ddelwedd, yw nad yw’n gwneud unrhyw addewidion ffug.

Mae ymchwil y chwiorydd Davies am ddiwylliant - ac efallai ein hymchwil ein hunain - yn dibynnu ar gamweithredu cyffredinol, sylfaenol ar y gwaith celf. Mae ymdrech celf i gynrychioli, yn onest, y cyflwr dynol - efallai'r syniad fod y fath beth â’r ‘cyflwr dynol’ - yn hunanddinistriol yn ei hanfod, gan arwain y gwrthrych at fawrygiad personol ar un llaw (wrth ddyrchafu’r artist fel athrylith rhamantus ac fel un sy’n chwilio am ‘ystyr’ mewn diwylliant) a’r farchnad gelf ar y llall. (Ac yn ffigyrau Picasso neu Jackson Pollock, er enghraifft, yn cyflawni’r ddau.) O fewn ychydig flynyddoedd o daith y chwiorydd i’r Eidal byddai celf fodernaidd, fel ei ‘ystyr’, yn amau ac yna’n cwbl ddibrisio’r syniad o ‘ystyr’ mewn celf: gwelwn hyn yn fwyaf amlwg yng ngwaith Duchamp, ond mae hefyd yn ymddangos ym mheintiadau Picabia, ac yn cael mynegiant arbennig o glir yn argymhelliad Richard Huelsenbeck yn y Dada Almanac yn 1920 sef y gallai peintiwr orchymyn i lu au gael eu cynhyrchu gan eraill dros y ffôn. Ym 1922 byddai’r artist o Hwngari, Láslo Moholy Nagy yn honni ei fod wedi gwneud yn union hyn, gan arddweud ei ofynion i arolygwr ffatri arwyddion yn Berlin am bump o beintiadau mewn gwahanol feintiadau ar enamel porslen. Y symudiad hwn y mae Grennan a Sperandio yn ei efelychu wrth gomisiynu eu peintiadau oddi wrth grefftwyr Chineaidd drwy gyfrwng cyfathrebu anghysbell ein cyfnod ni. Ond mae’n symudiad sydd eisoes wedi ei wneud, mewn cyfnod a fyddai wedi gwneud honiadau mawreddog am bresenoldeb unigol a gwirionedd peintio, gan gopïwyr Bouguereau yn KPM, neu gan drawsnewid peintio hanesyddol, a hyd yn oed ffantasïau rhywiol Ingres yn engrafiadau a gafodd eu dosbarthu’n helaeth yn yr 1820au a’r 1830au. Gallai’r amhosibilrwydd o gau’r drws ar hanes y mae gweithiau Grennan a Sperandio yn ymddangos fel pe baent yn ei ymgorffori fod yn ‘amhosibl’ oherwydd bod y bwlch rhwng y gorffennol a’r presennol, rhwng ‘ystyr’, yn ôl yna, ac absenoldeb ystyr, yn awr, ynddi’i hun yn rhithiol. Y broblem yma yw cyfansoddiad yr hunan, yn hanesyddol, drwy ei adlewyrchiad ar brofiad gwirioneddol, dilysrwydd perthynas i fywyd rhywun y mae diwylliant, ac yma, yn benodol, peintio yn cael ei ddeall i gynrychioli - fel gwrthrych wedi ei gasglu ac yn ei ddeunydd. Roedd peintio i Gwendoline a Margaret Davies yn cael ei ddeall fel rhywbeth oedd yn llawn o wirioneddau uwch yn deillio o’r tu allan, hyd yn oed os nad oeddent yn gwybod beth oedd y rhain oni bai eu bod yn cael eu llywio tuag atynt gan athrawon a chynghorwyr. Y cyffyrddiad ag ‘ystyr’ oedd yr hyn a oedd yn eich gwneud yn unigolyn gwell a beth allai wneud gwell cymdeithas drwy ‘welliant’. Yr hyn y mae Grennan a Sperandio yn ei awgrymu yn eu palimpsestiau o ddelweddaeth gyfoes yw bod yr addewid hwn o ystyr, fel cynhyrchiad allanol, bob amser eisoes yn ffug. Mae’r honiad o ‘ddilysrwydd’ profiad ac ystyr yn Turner a Monet yn gymaint o honiad anonest â’r defnydd ffug a yrrir gan y farchnad o affaith mewn rhyw gelfyddyd gyfoes. Yn wir mae’n bosibl nad y broblem yw bod yr honiad ffug hwn yn arwydd o gelf sydd wedi methu â bod yna, yn rhywle arall, yn hanesyddol neu yn y presennol, gelf sy’n ddilys yn ei dull o gyfathrebu, yn ei ‘ystyr’ ond mai hyn, o anghenraid, yw'r hyn mae celf yn ei wneud. Dim ond delweddaeth ydyw, ond yr ydym ni, efallai yn angenrheidiol, yn dymuno iddo fod yn rhywbeth mwy; rydym am gael ‘gwirionedd’ mewn peintio oherwydd na allwn ddod o hyd i wirionedd mewn bywyd. Efallai yn fwy diddorol inni yw addewid celf y gallai wneud rhywbeth yn y parth hwnnw. Nid yw celf yn cyfranogi mewn rhyw ddyfodol rhagweladwy wedi inni ddileu’r ffiniau i’w adeiladu a’i ddull o fframio profiad. Mae nihiliaeth ymddangosiadol Grennan a Sperandio yn cynhyrchu ei fylchau ei hun, lle gallai’r dyfodol, eich dyfodol chi, ddigwydd yn union oherwydd nad yw’n caniatáu i’r gwaith celf roi atebion gwag i ni fel ‘gwirionedd’ a ‘harddwch’ i gwestiynau caled hanes.