Ysgrifennu ar gyfer Radio

Cwrs pleserus ac ysgogol sy’n addas i ddechreuwyr. Byddwch yn dysgu technegau ar gyfer gwaith radio sy’n cynnwys monolog, deialog
a ... mwy >

Swyddog Marchnata: Oriel Davies

Mae Oriel Davies yn edrych am Swyddog Marchnata Rhan-amser. Dylai ymgeiswyr gael profiad helaeth o farchnata ar gyfer y celfyddydau ... mwy >

Exhibitions openings & artists' talk

Pia Borg, Sibyl Montague a Sean Vicary
Bydd yr arddangosfa ar agor o 6-8yh
Artistiaid yn Sgwrsio ... mwy >

Oriel Davies Gallery
Y Parc, Y Drenewydd
Powys SY16 2NZ
Rhif ffôn: +44 (0) 1686 625041
Ffacs: +44 (0) 1686 623633
E-bost: desk@orieldavies.org
Llun-Sadwrn 10yb-5yh
Mynediad am ddim

Enillwyr RE:animate, Arddangosfa Agored Oriel Davies 2010

Pia Borg, Palimpsest, 2009

Mae’n bleser gan Oriel Davies gyhoeddi enillwyr ei phedwaredd arddangosfa biennial agored, RE:animate. Mae pedwar o’r tri deg naw o artistiaid oedd yn arddangos wedi derbyn gwobrau yn ystod lansiad agoriadol y sioe, a chyflwynwyd y wobr yn ffurfiol iddynt gan Brif Noddwr Re: animate, Whittingham and Riddell.

Y gwobrau a ddyfarnwyd oedd; Gwobr 1af Whittingham Riddell o £1000 am yr enillydd cyffredinol Pia Borg, gwneuthurwr ffilmiau sydd wedi’i leoli yn Llundain; Gwobr 1af i Fyfyrwyr o £500 a ddyfarnwyd i Sibyl Montague, myfyriwr sydd hefyd wedi’i lleoli yn Llundain. Cynigiwyd sioe unigol yn Oriel Davies yn ystod tymor yr haf 2011 i’r ddau artist yma. Dyfarnwyd yr 2il Wobr gyffredinol o £500 i John R. Burns, o Coventry, tra cyflwynwyd £250, yr ail Wobr i Fyfyrwyr, i Savinder Bual.

Dyfarnwyd Gwobr Dewis y Bobl o £200 i Sibyl Montague, am ei gwaith o’r enw 'Last Island'. Noddwyd Gwobr Dewis y Bobl o £200 yn hael gan Newtown Station Travel.


Cyhoeddwyd 29 Mehefin 2010
Newyddion >