Dosbarthiadau Bywluniadu Paul Webster

Mae'r sesiynau difyr hyn, gyda thiwtor, yn annog cryfderau unigol, tra’n archwilio agweddau gwahanol o dynnu llun y ffigwr dynol. Mae'r ... mwy >

Rangoli: Art that Binds

Following the success of the 2017 Rangoli: Art that Binds project, as part the India/ Wales season of events with the mwy >

Oriel Davies Gallery
Y Parc, Y Drenewydd
Powys SY16 2NZ
Rhif ffôn: +44 (0) 1686 625041
Ffacs: +44 (0) 1686 623633
E-bost: desk@orieldavies.org
 
Llun-Gwener 10yb-5yh
Sadwrn 10yb-4yh
 

 

 

Bedwyr Williams and the Starry Messenger

Bedwyr Williams

Confensiwn amatur mewn ystyriaeth o Gymru yn yr Biennale Celfyddydol yn Fenis 2013 yn Sain Ffagan; Amgueddfa Werin Cymru, Caerdydd.
 

Dydd Gwener, Mawrth 15ed 11yb – 5yp


“The astronomer is stood in the window in a kind of half trance because he is getting a buzz from seeing his observatory with a starry night above it. So even though whilst he should be in there looking into the eyepiece breathing noisily through his nose chomping on the eyepiece with his baggy eye he’s actually getting some pleasure from looking at his hobby. The brochure he had thumbed for months showed a scene not unlike this. This man is observing his observatory”
‘The Astronomer’, Bedwyr Williams, Performance Text, 2012.

Mewn rhagflaeniad o arddangosfa Bedwyr Williams dros Gymru yn 55fed Biennale o Gelf yn Venice, mae Oriel Davies a MOSTYN yn cyflwyno Confensiwn Amatur yn y Sefydliad Gweithwyr Oakdale yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin , Cymru.

Addawyd y confensiwn diwrnod gwych yn llawn cyfnewid celfyddydol mewn lleoliad unigryw, gan ymddangos Bedwyr Williams ynghyd a cyfranwyr eraill. 

Fe fydd y confensiwn yn dal trafodaethau, perfformiadau a ddangosiadau ffilmiau sydd yn archwilio‘r perthynas rhwng syllu ar y ser a’r cartref. Fydd y digwyddiad anffurfiol yn pennu cwestiynau allweddol, megis :-

Pam, trwy’r oesoedd, ydym ni wedi cael ein syfrdanu gan y bydysawd? Sut ydyn ni wedi eu defnyddio nhw i ddysgu mwy am ein dyfodol a darganfod gwybodaeth am ein gorffennol? Beth mae’n ei olygu i weithio fel amatur mewn maes llawn gweithwyr proffesiynol? Sut mae llawr Terazzo yn cael eu creu? A pam fod atomau yn ysgwyd?

Mae’r Confensiwn yn rhad ac am ddim yn ond mae llefydd yn gyfyngedig felly mae archebu yn hanfodol.

Fe fydd cludiant i ddychwelyd o Sain Ffagan i ganol y ddinas ar gael ond fydd llefydd yn gyfyngedig, felly fe fydd rhaid archebu o flaen llaw.

Fe fydd y confensiwn yn ystod y dydd yn cael ei ddilyn yn y nos gan:

A Starry Comedy Night

Nos Wener 15fed o Fawrth, o 8yh ymlaen.


Fe fydd ‘A Starry Comedy Night’ yn cael ei gynnal mewn lleoliad i’w gael ei gadarnhau yng Nghaerdydd.

Fe fydd mwy o fanylion yn cynnwys y gwestai yn cael eu cyhoeddi yn fuan, edrychwch eto ar y wefan am fwy o fanylion.

Mae’r ‘A Starry Comedy Night’ yn rhad ac am ddim yn ond mae llefydd yn gyfyngedig felly mae archebu yn hanfodol, gwelwch y ddolen.

Archebwch am y digwyddiad/au gan lawr-lwytho a llenwi’r ffurflen archebu.

E-bostiwch eich ffurflen gyflawn at :desk@orieldavies.org , efo’r teitl - The starry messenger.

Trefnydd y confensiwn : Sean Edwards

Diolch i’r Amgueddfa Genedlaethol Cymru.
Fe fydd Bedwyr Williams yn cynrychioli Cymru yn y 55fed Biennale Celf ryngwladol yn Fenis 2013 mewn prosiect sy’n cael ei curadu gan MOSTYN ac Oriel Davies ac yn cael ei gomisiynu gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Fydd arddangosfa Bedwyr yn cael ei arddangos yn y Ludoteca Santa Maria Ausiliatrice, Venice, o’r 1af o Fehefin hyd at y 24ain o Dachwedd 2013.

Mae’r arddangosfa hwn wedi ei gomisiynu a’i rheoli gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru efo cefnogaeth a chydweithrediad o’r Llywodraeth Cymraeg a’r Cyngor Prydeinig.
  

Cyhoeddwyd 28 Ionawr 2013
Newyddion >