1982
Sefydlwyd yr Oriel yn wreiddiol fel Oriel 31 yn Y Trallwng, a enwyd ar ôl ei lleoliad cyntaf yn 31 Stryd Fawr.
1985
Dynodwyd yr Oriel yn un o saith Oriel Ddatblygu Cymru, gan symud ei gwaith i Oriel Goffa Davies, a adeiladwyd yn bwrpasol ym 1967 yn y Drenewydd fel oriel / canolfan gymunedol gyda chymynrodd a adawyd gan Gwendoline a Margaret Davies, casglwyr a chymwynaswyr celf gorau Cymru. Mae’r adeiladau’n perthyn i Gymdeithas Adfywio Cymunedau Sir Drefaldwyn (MCRA), ymddiriedolaeth ar wahân sydd â chysylltiadau i’r teulu Davies.
Late 1990s
Yn y 1990au hwyr, dechreuodd Oriel 31 a Chymdeithas Adfywio Cymunedau Sir Drefaldwyn weithio mewn partneriaeth i ddatblygu prosiect cyfalaf i ailwampio’r adeilad a chreu oriel gelf, a arweiniodd at Raglen Datblygu Cyfalaf uchelgeisiol dau gam
2002
Bu’r Oriel ar gau drwy gydol 2002 ar gyfer Cam 1 o’r rhaglen gyfalaf. Fe wnaeth y rhaglen hon ddiweddaru’r prif ofod arddangos (i 120 metr sgwâr), a chreu siop, cyntedd ac estyniad dur ar gyfer Caffi.
2003
Fe ail-agorwyd yr Oriel ym mis Ionawr 2003, ac fe’i hailenwyd yn Oriel Davies Gallery mewn cydnabyddiaeth o Gwendoline a Margaret Davies, casglwyr a chymwynaswyr celf gorau Cymru.
2004
Cynhaliwyd Cam Dau o’r rhaglen cyfalaf yn ystod 2004, a roddodd ail ofod arddangos mwy (i 95 metr sgwâr), ystafell addysg ac ardal adnoddau i Oriel Davies. Fe gafodd y neuadd ei dyblu o ran maint, a chrëwyd siop newydd a phatio tu allan ar gyfer y caffi.
£1.7 miliwn oedd cyfanswm y gost o adeiladu’r datblygiad cyfalaf. Loteri Cyngor Celfyddydau Cymru, Elusen Gwendoline & Margaret Davies, Cyngor Sir Powys a Bwrdd Twristiaeth Cymru oedd y noddwyr. Fe greodd rhaglen gyfalaf Oriel Davies un o’r orielau celf canolig ei maint mwyaf unigryw yng Nghymru. Fe wnaeth dyluniad pensaernïol B3Burgess yr Oriel yn fwy gweladwy diolch i ffasgau dur gwrthstaen llathredig, a chadwyd at y llinellau syml, modernaidd a golau naturiol hyfryd yr adeilad gwreiddiol. Fe ddarparodd fannau arddangos agored, hyblyg a oedd yn ddelfrydol i arddangos celfyddyd gyfoes. Fe wnaeth lefel uwch o ddiogelwch ac amodau amgylcheddol ganiatáu i’r Oriel fenthyg gwaith celf o gasgliadau celfyddyd cenedlaethol pwysig. Roedd yr Oriel newydd yn groesawgar i ymwelwyr, gyda’r fynedfa ddwbl a maint cymharol fychan y cyntedd a’r siop yn creu canolbwynt agored ac anffurfiol i symud o fan i fan ac i mewn ac allan yn hawdd.
Derbyniwyd Oriel Davies i fod yn rhan o Gynllun Cynaliadwyedd Cyngor Celfyddydau Cymru, gan alluogi’r Oriel i weithio gydag ymgynghorwyr celf a phobl broffesiynol eraill i arwain ac asesu anghenion y sefydliad ar ôl ei ailwampio.
2008
Dyfarnwyd Gwobr Cwmni Beacon Cyngor Celfyddydau Cymru 2008-10 i Oriel Davies am arbenigedd ac arloesed.






