Mae Oriel Davies yn cynnig ystod o weithgareddau a gweithdai i deuluoedd ac ymwelwyr ifanc. Mae’r gweithgareddau ymarferol, creadigol hyn yn ymglymu, yn herio a’n ysgogi. Caiff gweithdai eu rhedeg gan artistiaid - addysgwyr profiadol ac yn aml, darperir deunyddiau.
Mae’r tîm addysg yn ymdrechu i ddatblygu a hwyluso gweithdai i deuluoedd yn ystod gwyliau ysgol ac ar y penwythnosau. I weld gweithgareddau a gweithdai cyfredol, edrychwch ar y calendr, ac os hoffech chi gael eich diweddaru ynghylch gweithgareddau & gweithdai i deuluoedd fydd yn cael eu cynnal yn y dyfodol, tanysgrifiwch i dderbyn cylchlythyr am ddim ODG >
Bwcio
Mae’n angenrheidiol bwcio ar gyfer pob gweithdy, a chynghorir bwcio’n gynnar. Ffoniwch yr Oriel ar 01686 625041 neu anfonwch e-bost at: desk@orieldavies.org to i fwcio. Noder bod yn rhaid i blant o dan 8 mlwydd oed fynychu gydag oedolyn.
Rhagor o wybodaeth
Am ragor o wybodaeth ynghylch gweithgareddau a gweithdai i deuluoedd, cysylltwch â Clare Martin, Swyddog Addysg (dysgu anffurfiol) ar 01686 625041 neu anfonwch e-bost at: clare@orieldavies.org








