Twelve Tall Tales
Group Exhibition
29 Gorffennaf 2017 - 20 Medi 2017

Lluniau / Credydau The Welsh Space Campaign, 2013-2014, Hefin Jones. Llun gan Dan Burn-Forti plus more if space
Mae deuddeg o artistiaid, gwneuthurwyr a dylunwyr, a ddewiswyd gan ein curadur gwadd, Onkar Kular, yn adrodd storïau drwy wrthrychau maen nhw wedi'u gwneud. Mae hyn yn cynnwys The Welsh Space Campaign gan y dylunydd rhyngddisgyblaethol, Hefin Jones, sy'n cynnig bod gan Gymru'r capasiti i archwilio gofod. Yn ei waith, mae pob eitem sydd ei hangen i sefydlu ymgyrch gofod cenedlaethol yn cael ei thrwytho yn niwylliant, sgiliau a thraddodiadau Cymru.
Mae storïau yn bodoli o fewn hyd oes pob gwrthrych, boed hynny ar ffurf stori ynghylch trysor teuluol, neu banel gwybodaeth wedi’i osod wrth ymyl arddangosyn amgueddfa. Yn fwy diweddar, mae adrodd storïau wedi cael ei addasu fel teclyn marchnata, i gyfeirio at draddodiad a dilysrwydd. Mae’r arddangosfa hon, sy’n croesawu teuluoedd, yn cymryd ymagwedd fwy cynnil o ran archwilio adrodd storïau drwy wrthrychau wedi’u saernïo. Mae’r gweithiau’n cynnig amryfal ffyrdd ble y gellir trosi cyfeiriadau ffuglennol, doniol, diwylliannol, gwleidyddol a hanesyddol yn wrthrychau wedi’u saernïo.
Mae deuddeg o artistiaid, gwneuthurwyr a dylunwyr, a ddewiswyd gan ein curadur gwadd, Onkar Kular, yn adrodd storïau drwy wrthrychau maen nhw wedi'u gwneud. Mae hyn yn cynnwys The Welsh Space Campaign gan y dylunydd rhyngddisgyblaethol, Hefin Jones, sy'n cynnig bod gan Gymru'r capasiti i archwilio gofod. Yn ei waith, mae pob eitem sydd ei hangen i sefydlu ymgyrch gofod cenedlaethol yn cael ei thrwytho yn niwylliant, sgiliau a thraddodiadau Cymru.
Bob dydd Sadwrn:
Rhwng 11am-1pm a 2pm-3pm, bydd un o’r darnau sydd yn cael ei arddangos, sef Play For A Handling Collection gan Cecilie Gravesen, yn cael ei animeiddio gan Dywysydd yr Oriel, fel bod ymwelwyr yn gallu gafael yn y gwrthrychau a chymryd rhan mewn sesiwn drin wedi’i choreograffu yn yr oriel.
Artistiaid:
Åbäke, Auger-Loizeau, Carl Clerkin, Cecilie Gravesen, El Ultimo Grito, Zhenhan Hao, Hilda Hellström, Hefin Jones, Onkar Kular, Dash MacDonald, Noam Toran, Dawn Youll
Mae’r arddangosfa wedi cael ei dylunio gan Martino Gamper ac Åbäke.
Arddangosfa Deithiol y Cyngor Crefftau
Cefnogir gan Gyngor Celfyddydau Lloegr