Oriel Davies Gallery
Y Parc, Y Drenewydd
Powys SY16 2NZ
Rhif ffôn: +44 (0) 1686 625041

E-bost: desk@orieldavies.org

 

MAE'R ORIEL YN AGOR DYDD MAWRTH- DYDD SADWRN

SIOP Dydd Mawrth - Dydd Sadwrn 11-4

CAFFI Dydd Mawrth - Dydd Sadwrn 11-4

ORIEL Y CAFFI: Melvyn Evans: Argraffnod y Tir

ORIEL 1: Ein Ynysoedd: Arddangosfa yn Dathlu Celfyddyd Bywyd Gweledig

Cyn hir:

ORIEL 2: DAC Gwobr Celf (Mis Tachwedd)
 

 


 

 

Trelar | Trailer

Gareth Griffith

18 Ionawr 2020 - 01 Ebrill 2020

Gareth Griffith - Trelar | Trailer

Dyma arddangosfa o waith newydd gan yr artist Gareth Griffith, sy’n gweithio yng Ngogledd Cymru.

Dyma arddangosfa o waith newydd gan yr artist Gareth Griffith, sy’n gweithio yng Ngogledd Cymru. Mae’r Adeiladwaith a’r paentiadau yn ystyried y cysylltiadau rhwng lle ac amser ac yn cwestiynu materion cymdeithasol. Mae’r llefydd yn cynnwys Lerpwl, lle astudiodd yn y 1960au, Jamaica, lle bu’n byw efo’i deulu ifanc yn y saithdegau cynnar, a Mynydd Llandegai uwchben Dyffryn Ogwen lle y mae wedi byw a gweithio ers dros 40 mlynedd. Yn ei bedwar ugeinfed flwyddyn bellach, mae’r artist dylanwadol hwn yn cyflwyno gwaith sy’n defnyddio profiadau o’i einioes ac yn myfyrio ar y prosesau cynhyrchu a ddefnyddiwyd gan weithwyr ffatri yn y cymoedd a sut mae’r artist yn defnyddio’r un deunyddiau a phrosesau mewn ffyrdd gwahanol.

“Yr wyf yn edrych am cysylltiadau rhwng cerflunio a paentiadau . Y mae na cydfyw rhwng y dau-y gosodiad a’r paentiad.” Gareth Griffith

Trelar / Trailer

 Trelar | Trailer is a National Touring Exhibition curated by Oriel Davies and supported by Arts Council of Wales.