Tyfwch collage eich hun gydag Art Allotments

Cychwynnodd Art Allotments fel prosiect cyfnewid collage rhwng yr artistiaid Angela Martin a Heather Prescott. Maen nhw wedi bod yn anfon ... mwy >

Taith o amgylch Arddangosfa Agored Oriel Davies 2012

Taith rad ac am ddim ac anffurfiol o amgylch Arddangosfa Agored Oriel Davies 2012 gyda Churadur Oriel Davies, Ruth Gooding. Bydd y daith yn para am ... mwy >

Bywluniad

Sesiynau difyr, wedi’u tiwtora, sy’n annog cryfderau unigol, gan ddefnyddio amrywiaeth o ddeunyddiau mewn awyrgylch hamddenol a chreadigol. ... mwy >

Oriel Davies Gallery
Y Parc, Y Drenewydd
Powys SY16 2NZ
Rhif ffôn: +44 (0) 1686 625041
Ffacs: +44 (0) 1686 623633
E-bost: desk@orieldavies.org
Llun-Sadwrn 10yb-5yh
Mynediad am ddim

Nimrod

Bedwyr Williams

16 Gorffennaf 2011 - 31 Awst 2011

Image 1 of 4 next >   Bedwyr Williams, Nimrod, 2009. Courtesy Ceri Hand Gallery

Mae trem dreiddgar Bedwyr Williams yn treiddio i ddyheadau, ansicrwydd a hynodrwydd bywyd gyda chywirdeb craff a hiwmor swrrealaidd.

Mae Williams yn aml yn gwneud defnydd o storïau personol a hanesion teuluol o’i ddyddiau cynnar yng nghefn gwlad Gogledd Cymru i’w yrfa fel artist rhyngwladol, sy’n parhau i fyw a gweithio yng Nghymru. Mae ei waith yn gofyn cwestiynau ynghylch hunaniaeth, atgofion, lle a mytholeg ddiwylliannol drwy ystod o gyfeiriadau artistig. Yn aml, mae’r rhain yn cynnwys technolegau sydd ar ddarfod yn y gosodiadau, cerfluniaeth, printiau a darnau perfformiadol.

Mae’r arddangosfa fawr unigol hon yn dathlu gwaith newydd a hen, sy’n cynnwys ei osodiad arbennig Nimrod, a gafodd ei greu yn wreiddiol ar gyfer Ceri Hand Gallery, Lerpwl yn 2009 ac a gafodd ei ail-wneud ar gyfer Oriel Davies. Mae Nimrod, sef maes awyr amgen, llai o faint, sydd â thwr gwylio, rhedfa a hysbysebion maes awyr, yn gymhellgar rhywsut a hefyd, â hiwmor tywyll.

Taith o’r arddangosfa yn ystod amser cinio
Dydd Mercher 3 Awst, 12.30-1.15yh
Ymunwch ag Amanda Farr, y Cyfarwyddwr, i fynd ar daith am ddim o amgylch arddangosfa Nimrod yn ystod amser cinio.


Bedwryr Williams is represented by Ceri Hand Gallery