Net#1 (Airbrick)
Digital Dialogues
19 Medi 2009 - 11 Tachwedd 2009
Image 1 of 7 next > Digital Dialogues Net#1 (Airbrick) (card template) 2009
Digital Dialogues yw’r artistiaid Darren Williams a Jason Davies, sy’n gweithio fesul dau. Wrth ddefnyddio delweddau wedi’u sganio o wrthrychau i gychwyn sgyrsiau rhyngddyn nhw eu hunain a’u cynulleidfa, maen nhw’n agor syniadau ynghylch cyfranogiad, dylunio a cherfwaith. Mae Net#1(Airbrick) yn rhan o gyfres o weithiau o’r enw World of Forms.
Mae ‘Digital Dialogues’ yn cynnwys deuawd o artistiaid, Darren Williams a Jason Davies. Er eu bod yn byw mewn lleoliadau gwahanol, datblygodd Williams a Davies y syniad o gydweithio drwy greu gwaith drwy broses o gyfnewid negeseuon ebost i ymchwilio i agweddau o gyfathrebu.
Gan ddefnyddio delweddau wedi eu sganio o wrthrychau i ddechrau sgyrsiau rhyngddynt eu hunain a’u cynulleidfa, maent yn ymdrin â syniadau yn ymwneud â chymryd rhan, tynnu llun a cherflunwaith. Mae Net#1 (Airbrick) yn rhan o gyfres o weithiau o’r enw World of Forms ac yn dangos prosesau gwaith yr artistiaid a’u diddordeb mewn amlygu’r gwaith o adeiladu a chanlyniadau deialog a chydweithio.
Ar gyfer Net#1 (Airbrick) anfonodd yr artistiaid ffeiliau gweledol o fricsen aer wedi ei sganio yn ôl ac ymlaen i’w gilydd. Gyda’r ffeil electronig anfonwyd ychydig neu ddim gwybodaeth neu gyfarwyddyd fel bod yn rhaid i’r sawl a oedd yn ei derbyn geisio deall bwriadau’r sawl oedd yn ei hanfon a thrio cael gweld yr ystyr. Mae’r weithdrefn syml hon yn amlygu’r potensial ar gyfer camgyfathrebu a’r cymhlethdod sydd ynghlwm wrth sgwrsio. Ar yr un pryd, mae’r dechnoleg hon yn amlygu’r potensial o gael rhyddhad i ffwrdd oddi wrth weithio ym mhresenoldeb ffisegol ei gilydd a rhyddhau’r artistiaid o’r rhagfarnau sy’n deillio o ymddangosiad ac ymddygiad.
Drwy’r broses o sganio, symudodd dealltwriaeth a realaeth y gwrthrych gwreiddiol o’i realaeth corfforol i realaeth lluniadol newydd. Mae’r ddelwedd derfynol wedi ei hargraffu ar gerdyn bellach yn gwahodd yr ymwelydd i’r oriel i ail-greu ffurf o fricsen o gynrychiolaeth weledol. Rhoddir canlyniad terfynol y gwaith felly drosodd i’r gwyliwr. Ar ôl adeiladu bricsen gwahoddir pob unigolyn i’w rhoi o fewn gofod Mewn Ffocws ac, wrth i friciau ychwanegol gael eu gwneud, gall y gwyliwr drefnu neu ail-drefnu’r briciau mewn unrhyw fodd i greu strwythur sy’n esblygu drwy gydol y sioe.
Cyfarfu’r artistiaid tra roeddent wedi eu cofrestru ar y cwrs MA mewn Celfyddyd Gain ym Mhrifysgol Cymru yng Nghaerdydd yn 2004. Roeddynt yn rhan o grwp llai o gyfoedion a oedd yn trafod materion yn ymwneud â chelf a thechnoleg, ffurfiau o gyfathrebu a chyfyngiadau o fewn fframwaith artistig, diffyg lle, cyfalaf, amser ac ati. Oherwydd eu bod wedi eu gwahanu yn ddaearyddol, cafodd y cyfathrebu rhyngddynt y tu allan i’r cwrs ei ymestyn drwy ffôn ac ebost. Esblygodd y ddeialog lafar hon a’r ddeialog sy’n seiliedig ar destun yn araf dros amser i fod yn ddeialog ddarluniadol a arweiniodd at y cydweithio y maent wedi bod yn ymwneud ag ef ers hynny, sydd â ‘chyfathrebu’ yn ganolog iddo.
Yn cefnogi gwaith newydd ac arbrofol sy’n cael ei ddatblygu gan artistiaid yng Nghymru a’r Gororau.






