Tyfwch collage eich hun gydag Art Allotments

Cychwynnodd Art Allotments fel prosiect cyfnewid collage rhwng yr artistiaid Angela Martin a Heather Prescott. Maen nhw wedi bod yn anfon ... mwy >

Taith o amgylch Arddangosfa Agored Oriel Davies 2012

Taith rad ac am ddim ac anffurfiol o amgylch Arddangosfa Agored Oriel Davies 2012 gyda Churadur Oriel Davies, Ruth Gooding. Bydd y daith yn para am ... mwy >

Bywluniad

Sesiynau difyr, wedi’u tiwtora, sy’n annog cryfderau unigol, gan ddefnyddio amrywiaeth o ddeunyddiau mewn awyrgylch hamddenol a chreadigol. ... mwy >

Oriel Davies Gallery
Y Parc, Y Drenewydd
Powys SY16 2NZ
Rhif ffôn: +44 (0) 1686 625041
Ffacs: +44 (0) 1686 623633
E-bost: desk@orieldavies.org
Llun-Sadwrn 10yb-5yh
Mynediad am ddim

The Modes of Al-Ikseer

Harminder Singh Judge

18 Mehefin 2010

Photo of figure in green light with neon lettering

Harminder Judge Singh The Modes of Al-Ikseer 2009. Photo: Benedict Johnson

Gosodiad perfformiad byw yw 'The Modes of Al-Ikseer' sy’n cyfuno diwylliant pop cyfoes, estheteg hysbysebu, hiwmor tafod yn y boch a delweddau epig, symbolaidd. Mae'n arsylwi a’n lleoli safle symbolaeth grefyddol hynafol a chwedloniaeth mewn byd sydd ag obsesiwn gyda chyfalafiaeth, pobl enwog a gimigau marchnata.

Perfformiad newydd gan Harminder Singh Judge yw The Modes of Al-Ikseer, sy’n mynd ar daith o amgylch y DU yn ystod 2010. Mae hwn yn berfformiad hynod o drawiadol sy’n cymysgu celfyddyd byw a pherfformiad cerddorol, ac sy’n cynnwys fersiwn wedi’i ailgymysgu o drac gwych Depeche Mode, Personal Jesus, gyda drymio Dhol byw.

Mae’r gwaith yn archwilio cyfaredd yr artist â diwylliant pop cyfoes a chwedlau Hindŵaidd, gan gymryd 'Corddi’r Cefnfor' fel platfform ar gyfer datblygu gwaith gwreiddiol. Mae'r artist yn troi rownd a rownd ar blatfform alwminiwm sy’n symud yn araf, wedi'i amgylchynu gan bwll o laeth, i ddod â’r stori Hindŵaidd hynafol 'Corddi’r Cefnfor' i fywyd. Mae’r stori chwedlonol hon yn dwyn i gof sut y crëwyd elicsir bywyd pan ddaeth y Devas (duwiau) a’r Asuras (diafoliaid) at ei gilydd i gorddi’r cefnfor. Cyflogwyd Vasuki, Brenin y Seirff fel rhaff, ac fe’i lapiwyd o amgylch Mynydd Mandaranchal er mwyn creu’r elicsir. Ni fu’r cais cyntaf yn llwyddiannus, ond wrth i’r mynydd ddechrau suddo i’r môr, fe wnaeth y Duw Vishnu ymddangos fel crwban, gan gefnogi’r mynydd ar ei gefn.

Caiff The Modes of Al-Ikseer ei gynhyrchu gan Simon Poulter, a chaiff ei ariannu gan Gronfa Mentrau Cenedlaethol, Cyngor Celfyddydau Lloegr.

See film made at Oriel Davies >