Lure
Helen Sear
02 Chwefror 2013 - 17 Ebrill 2013
Image 1 of 4 next > Helen Sear, Sightline 4, inkjet print and gesso, 2011
Arddangosfa fawr o waith newydd gan Helen Sear yw lure. Mae gwaith Helen, sy’n un o’r bobol fwyaf pwysig a threiddgar yn ei maes, yn cael ei nodweddu gan ei harchwiliad o'r gorgyffwrdd rhwng iaith a chelfyddyd gain, ei sylw ar y byd naturiol, a harddwch syfrdanol ei gwaith.
Yn ystod y deunaw mis diwethaf, mae Helen wedi creu corff newydd gwych o waith - ffotograffiaeth, fideo, gosodiadau ffilm a cherflunwaith. Mae hi'n creu gwaith nerthol o bethau syml yr olwg – pwll wedi rhewi, beliau gwellt mewn cae, blodau gwyllt - sy'n archwilio syniadau o weld a chanfyddiad. Yn Pastoral Monument, mae chwyn disylw o ddolydd lleol yn cael eu dyrchafu i statws epig, gyda’r lliwiau llachar yn disgleirio yn erbyn cefndir melfedaidd o dywyll gyda chyfoeth paentiad bywyd llonydd Holandaidd.
Yn y ffilm, Chameleon, mae blodyn haul yn dod i’r amlwg yn raddol o’r tywyllwch gan ddatguddio’i hun yn araf, yn ysbrydol ac yn anesmwyth. Mae ei cherfluniau newydd yn archwilio maint, ffurf a deunydd, ac yn ailgyflwyno'r cyfarwydd fel yr anghyfarwydd, a phethau a anwybyddir fel pethau mawreddog.
Mae Helen Sear yn byw ac yn gweithio yn Ne Cymru. Yn 2011, hi oedd cyd-enillydd y Fedal Aur yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru, a hefyd, derbyniodd Ddyfarniad Cymru Greadigol gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Mae hi'n arddangos yn helaeth yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Ar hyn o bryd, mae Helen yn Ddarllenydd mewn Ffotograffiaeth a Chelfyddyd Gain ym Mhrifysgol Cymru, Casnewydd. Mae hi'n cael ei chynryc
Agor yr Arddangosfa
Dydd Sadwrn 2 Chwefror 4 - 7yh.
4 - 5yh Helen Sear yn sgwrsio gyda David Drake, Cyfarwyddwr, Ffotogallery.
Arddangosfa Deithiol Genedlaethol yw lure, sydd wedi’i churadu gan Oriel Davies ac sy’n cael ei chefnogi gan Gyngor Celfyddydau Cymru.
Oriel Davies, Newtown, 2 February – 17 April 2013
Oriel Plas Glyn-y- Weddw, Llanbedrog, 5 Mai - 30 Mehefin 2013
Bay Art, Cardiff, 25 Mai - 21 Mehefin 2013
Oriel Wrecsam, 3 Gorffennaf - 31 Awst 2013






