Lines of Desire
Curaduron Ifanc 2010
28 Awst 2010 - 03 Tachwedd 2010
Image 1 of 7 next > Daniel Lehan, Where would you rather be, 2010
Mae ‘Lines of Desire’, arddangosfa a ddyluniwyd gan Guraduron Ifanc Oriel Davies, yn dod ag artistiaid o’r Deyrnas Unedig a thu hwnt at ei gilydd, y mae eu gwaith yn archwilio syniadau sy’n gysylltiedig â Theithiau, Mapiau, Llwybrau, Ymylon, Terfynau Amser, Hydredion a Lledredau. Mae’r arddangosfa hyfryd hon, sy’n ysgogi’r meddwl, yn cynnwys lluniau, ffotograffiaeth, delweddau symudol, sain a gosodiadau.
Lines of Desire yw’r drydedd arddangosfa yn Rhaglen Tair Blynedd Curaduron Ifanc yr Oriel, sy’n dod ag 20 o artistiaid cenedlaethol a rhyngwladol at ei gilydd mewn sioe drawiadol sydd wedi cael ei llunio, ei dethol ac a fydd yn cael ei harddangos gan bobl ifanc 15 i 24 mlwydd oed.
Mae’r term ‘line of desire’ yn disgrifio llwybr sy’n cael ei threulio a’i gwisgo gan bobl neu anifeiliaid sy’n dod o hyd i’r pellter byrraf rhwng dau bwynt. Ehangwyd y syniad hwn gan y Curaduron Ifanc i ddatblygu brîff ysbrydoledig oedd yn croesawu ystod o bosibiliadau, yn cynnwys: teithiau, ymylon, hydredion, lledredau, llinellau caneuon, storïau a thraciau.
Mae’r arddangosfa hon, sy’n ysgogi’r meddwl, yn cyflwyno ystod eang o weithiau celf, er enghraifft: ailberfformio’r daith balwn cyntaf yn yr awyr yn Yr Alban, deuawd sy’n cael ei chanu gyda phry cop, Llinell Meridian sydd wedi cael ei chreu o siwgr, a lifft sgïo bychan.
Artistiaid sy’n Arddangos: Colin Andrews, Eskild Beck, Jacob Cartwright and Nick Jordan , Ellie Chaney, Jeremy Evans, Alice Forward, Lesley Halliwell , Adam Heiss, Kaori Homma, Mark Langley, Daniel Lehan, Eleanor Morgan, Plan b, Nicole Polonsky, Margaret Proudfoot, David Rickard, Stuart Robinson, Carole Romaya, Helen Saunders, Daniel Staincliffe.
Catalog
Lines of Desire
Gyda thestunau mewnweledol gan yr artistiaid sy’n cymryd rhan, Curaduron Ifanc Oriel Davies a’r artist Melissa Hinkin, mae’r catalog lliw llawn hwn yn cynnwys lluniau o waith gan yr holl artistiaid sy’n arddangos.
180 x 240cm. 64 tudalen. Clawr caled
ISBN 978 1 870797 65 8
Cyhoeddwyd gan Oriel Davies Gallery
Testun Cymraeg & Saesneg
£6.95







