Interloper
Dawn Woolley
26 Mehefin 2010 - 18 Awst 2010
Image 1 of 3 next > Dawn Wooley Interloper (dead legs 1b) 2010
Mae 'Interloper' yn archwilio’r weithred o edrych a chael rhywun yn edrych arnoch chi - thema bwysig yng ngwaith Woolley. Mae ffotograff cyfatebol yn cymryd lle’r artist, fel bod y goddrych yn dod yn wrthrych, ac yn gorfodi’r gwyliwr i gwestiynu'r ffin hon o safbwynt llygadwr.
Dolen fideo ddigidol fer yw Interloper, sy’n portreadu ffigwr benywaidd mewn sefyllfa ddomestig pob dydd. Ar ôl gwneud y penderfyniad i wylio a dehongli’r sefyllfa, rydym ni, fel y gwyliwr, yn dod y ‘llygadwr’ ar unwaith. Gan dderbyn bod beth rydyn ni’n weld yn wir, mae ein dehongliad cychwynnol yn sydyn yn chwalu wrth i ni sylweddoli ein bod ni mewn gwirionedd, yn edrych ar ddarn 2 ddimensiwn o ffigwr benywaidd wedi’i dorri allan. Mae’r artist yn llythrennol wedi troi i fod y gwrthrych, a defnyddio natur rywiol ystrydebol y corff benywaidd i gwestiynu’r weithred o edrych a chael rhywun yn edrych arnoch chi. Mae Interloper yn gofyn i ni i ystyried dulliau sefydledig iaith ffotograffig gan gyfeirio’n arbennig at ‘Y Sylliad’ a dilysrwydd ffotograffig.
Mae’r dulliau niferus yr ydym yn edrych ar y cyfryngau gweledol ac yn cael ein gweld drwyddynt yn cael eu galw’n ‘Y Sylliad’. Yn rhan ganolog o gynrychiolaeth gweledol ers cychwyn ffotograffiaeth, mae ‘Y Sylliad’ yn parhau’n bwnc sy’n cael ei archwilio’n helaeth, yn enwedig gan rai o ddamcaniaethwyr allweddol iaith weledol fel Susan Sontag, John Berger a Michel Foucault . Mae dilysrwydd ffotograffig yn rhannu statws tebyg, ac mae’n gynyddol arwyddocaol wrth i ni gamu ymhellach ymlaen i’r oes ddigidol hon. Tu hwnt i ‘Y Sylliad’, mae Interloper yn mynd ymlaen i archwilio sut gall ein perthynas gyda’r ffigwr benywaidd newid unwaith ein bod ni’n dod yn ymwybodol ein bod ni, mewn gwirionedd, yn edrych ar wrthrych difywyd. Ar yr un pryd, mae’r fideo yn cwestiynu ein cred yng ngonestrwydd y gwrthrychau 3 dimensiwn sy’n cael eu hawgrymu gan yr arwyneb 2 ddimensiwn.
Arddangosfa Test Bed. Mae Oriel Davies yn ddiolchgar i Sefydliad Esmée Fairbairn am gefnogi’r fenter hon yn hael.
Yn cefnogi gwaith newydd ac arbrofol sy’n cael ei ddatblygu gan artistiaid yng Nghymru a’r Gororau.






