Tyfwch collage eich hun gydag Art Allotments

Cychwynnodd Art Allotments fel prosiect cyfnewid collage rhwng yr artistiaid Angela Martin a Heather Prescott. Maen nhw wedi bod yn anfon ... mwy >

Taith o amgylch Arddangosfa Agored Oriel Davies 2012

Taith rad ac am ddim ac anffurfiol o amgylch Arddangosfa Agored Oriel Davies 2012 gyda Churadur Oriel Davies, Ruth Gooding. Bydd y daith yn para am ... mwy >

Bywluniad

Sesiynau difyr, wedi’u tiwtora, sy’n annog cryfderau unigol, gan ddefnyddio amrywiaeth o ddeunyddiau mewn awyrgylch hamddenol a chreadigol. ... mwy >

Oriel Davies Gallery
Y Parc, Y Drenewydd
Powys SY16 2NZ
Rhif ffôn: +44 (0) 1686 625041
Ffacs: +44 (0) 1686 623633
E-bost: desk@orieldavies.org
Llun-Sadwrn 10yb-5yh
Mynediad am ddim

Hearth and Hill

Rebecca Spooner

26 Tachwedd 2011 - 01 Chwefror 2012

Image 1 of 2 next >   

Mae gofod arddangosfa TestBed Oriel Davies wedi cael ei drawsnewid yn ficroamgylchedd amlsynnwyr gan osodiad cyfoethog Rebecca Spooner o ffilm, ffotograffiaeth a gwrthrychau a ddarganfuwyd o’r amgylchedd naturiol.

Ar ôl cwblhau gradd MA mewn Celfyddyd Gain ym Mhrifysgol Cymru Caerdydd yn 2004, symudodd Rebecca Spooner i Grughywel, Powys, a newid pwyslais ei harfer artistig i ymateb i’r amgylchedd gwledig. Mae ei gosodiadau yn cael eu creu drwy ddefnyddio technoleg ‘lo-fi’ megis ffotograffiaeth Polaroid a ffilm Super 8 a 16mm yn arbennig, sy’n aml yn cael ei gyflwyno ochr yn ochr ag amrywiaeth o ddeunyddiau naturiol a gwrthrychau a ddarganfuwyd. Mae Hearth and Hill yn rhan o ymchwiliad parhaus ehangach i brofiad cyfoethog ac amrywiol byw yng nghefn gwlad, ein perthynas â natur, a threigl amser.

Mae’n ymwneud â’r tensiwn rhwng dau ddyhead; eisiau lloches, lle diogel neu ymdeimlad o gartref, a chael eich tynnu y tu allan, i’r bryniau a’r coedwigoedd, a dod o hyd i fannau mwy gwyllt.

Mae diddordeb mewn arlunwyr tirlun o Brydain yn yr 20fed ganrif, megis Paul Nash, Alfred Munnings a Ceri Richards, wedi annog arddull arluniol o ymwneud â’r tirlun - archwilio lliw, golau, ffurf a chyfansoddiad. Mae tirlun Cymru yn enwedig yn cael ei gipio ar ffurf motiffau cylchol - ffiniau, cymoedd, mynyddoedd, rhaeadrau a bywyd gwyllt, sy’n dod yn drosiadau ar gyfer emosiynau a dyheadau dynol.

Mae’r gwaith yn llawn camsyniad hurt a symbolaeth sy’n dangos y dylanwadau llenyddol eang ac amrywiol, megis darluniau hiraethus o amseroedd a fu yng ngwaith Laurie Lee, ac amgylcheddau atmosfferig byw yng ngwaith Daphne du Maurier.

Drwy’r gwaith aml-haenog a’r cysylltiadau amrywiol llenyddol, artistig ac amgylcheddol, mae’r gwaith yn gwahodd ymateb personol iawn.


Ers gorffen ei MA yn UWIC yn 2004, mae Spooner wedi arddangos yn Amgueddfa Casnewydd yn 2006 fel rhan o raglen breswyl Cywaith Cymru: Art Works Wales, Oriel Mostyn, Llandudno, Penpont Manor, Aberhonddu, Open Empty Spaces, Caerdydd ac mewn sioe unigol, The White Stag yn g39 Caerdydd yn 2008.

Test Bed Logo Yn cefnogi gwaith newydd ac arbrofol sy’n cael ei ddatblygu gan artistiaid yng Nghymru a’r Gororau.