Field Work
Dave Lewis
17 Ebrill 2010 - 09 Mehefin 2010
Image 1 of 6 next > Dave Lewis Llani Carnival #4 C-type print 2009
Corff newydd o waith celf yw 'Field Work' a gafodd ei ysgogi gan y syniad o’r artist fel ‘dieithryn’. Mae Lewis wedi archwilio’r New Forest yn Hampshire ac Y Drenewydd yng nghanolbarth Cymru, sy’n cael eu cysylltu drwy eu lleoliadau gwledig a hefyd, gan eu gwahaniaethau diwylliannol i Lundain, man geni Lewis.
Ffotograffydd a gwneuthurwr ffilmiau yw Dave Lewis sy’n archwilio hunaniaeth a’r ffyrdd y mae pobl yn teimlo eu bod nhw’n perthyn i le penodol. Corff newydd o waith yw Field Work a grëwyd drwy gyfuniad arloesol o rôl yr artist fel ‘dieithryn’ ac fel anthropolegwr – fel rhywun sy’n pryderu ynghylch deall hunaniaeth ddiwylliannol. Yn y broses o gasglu tystiolaeth o lygad y ffynnon mewn dau leoliad penodol - Y Drenewydd yng Nghanolbarth Cymru a Sway yn y New Forest – mae’r artist yn llunio paralelau rhwng y ddwy rôl hyn, a’n dangos sut maen nhw’n aml yn mynd ar ôl dulliau tebyg o archwilio a’n rhannu nodau cyffredin. Mae cymunedau Y Drenewydd a Sway yn cael eu cysylltu gyda’i gilydd drwy’r broses o gyfweld â thrigolion lleol a dogfennu digwyddiadau lleol fel gwyliau a charnifalau. Ar yr un pryd, mae munud mwy ymatblyg lle mae’r ‘dieithryn’ yn cyfryngu ar y tir y mae’n weld, ond dim yn ei ddeall yn llwyr.
Mae’r gwaith sy’n dilyn yn archwilio rôl yr unigolyn mewn cymdeithas, sut caiff ffiniau gyda phobl o’r tu allan eu gweld, a sut mae’r ddau o’r rhain yn berthnasol i’r ffordd y mae pobl yn cysylltu eu hunain gyda lle penodol a hunaniaeth ddiwylliannol. Mae’r arddangosfa ar y cyfan yn ceisio problemeiddio materion sy’n ymwneud â hil, yr amgylchedd a hunaniaeth, a phlethu’r rhain i mewn i storïau cymhleth sy’n cwestiynu agwedd a dealltwriaeth yr arsyllwr ei hun ynghylch y syniad o berthyn.
Ar gyfer ei arddangosfa yn Oriel Davies, bydd yr artist yn cyflwyno cyfres o luniau tirlun graddfa fawr a dynnwyd ar gyrion y Drenewydd a Sway, yn ogystal â gwaith fideo sy’n cyflwyno dwy ‘daith’ a gafodd eu ffilmio yn dilyn y ‘dieithryn’ wrth iddo gynnal ei ymchwil.
Enillodd Dave Lewis radd BA (Anrhydedd) mewn Ffilm a Chelfyddydau Ffotograffig o Goleg Polytechnig Canol Llundain (Prifysgol San Steffan nawr). Yn ddiweddar, fe orffennodd weithio fel Cymrawd Ymchwil Gwadd ym Mhrifysgol Goldsmiths, Llundain, yn yr Adran Anthropoleg. Mae arddangosfeydd a sgriniadau diweddar yn cynnwys: Photo-ID, Norwich Forum, 2009; ‘Hybridity’, Sainsbury Centre for Visual Arts, 2008; ‘Anywhere but Here’, Southwark Gallery, 2008; AfterShock: Conflict, Violence and Resolution in Contemporary Art, SCVA 2007.
Comisiwn ar y cyd yw Dave Lewis: Field Work rhwng Autograph ABP, ArtSway ag Oriel Davies Gallery.
See film documenting Field Work >







