Tyfwch collage eich hun gydag Art Allotments

Cychwynnodd Art Allotments fel prosiect cyfnewid collage rhwng yr artistiaid Angela Martin a Heather Prescott. Maen nhw wedi bod yn anfon ... mwy >

Taith o amgylch Arddangosfa Agored Oriel Davies 2012

Taith rad ac am ddim ac anffurfiol o amgylch Arddangosfa Agored Oriel Davies 2012 gyda Churadur Oriel Davies, Ruth Gooding. Bydd y daith yn para am ... mwy >

Bywluniad

Sesiynau difyr, wedi’u tiwtora, sy’n annog cryfderau unigol, gan ddefnyddio amrywiaeth o ddeunyddiau mewn awyrgylch hamddenol a chreadigol. ... mwy >

Oriel Davies Gallery
Y Parc, Y Drenewydd
Powys SY16 2NZ
Rhif ffôn: +44 (0) 1686 625041
Ffacs: +44 (0) 1686 623633
E-bost: desk@orieldavies.org
Llun-Sadwrn 10yb-5yh
Mynediad am ddim

Fantasy is a Place Where it Rains

Patrick Farmer a Sarah Hughes

17 Ebrill 2010 - 09 Mehefin 2010

mixed media collage with leaves and dirt

Image 1 of 4 next >   Patrick Farmer and Sarah Hughes, 'Fantasy is a Place Where it Rains', 2010 (installation detail)

Mae’r artistiaid Patrick Farmer a Sarah Hughes gweithio’n unigol a gyda’i gilydd mewn ymateb i’r amgyl-chedd, i ddatblygu a gwella ein hymwybyddiaeth ohono. Mae’r modd y maen nhw’n gosod ystumiau barddol yn annog y gwyliwr i ailasesu eu perthynas arferol gydag elfennau amgylcheddol cyfarwydd.

Mae’r artistiaid Patrick Farmer a Sarah Hughes o’r Drenewydd, sy’n gweithio ar y cyd, yn ceisio cipio cylchoedd bywyd cyfnewidiol Afon Hafren. Bydd y rhain yn cael eu dangos i gynulleidfa Test Bed drwy gyfuniad o luniadau, recordiadau o synau hydroffonig a deunydd ffisegol i ddangos cwrs hunanreolaethol yr afon o’i tharddiad yng nghoedwig Hafren at ben ei thaith ym Môr Hafren.

Caiff cyfres o ‘luniadau afon’ eu cyflwyno i ni sy’n dangos toreth o weadau tebyg i’r afon. Efallai nad yw’r rhain yn cael eu gweld bob tro fel cydrannau endidau hylif, er y mae’n amlwg mai rhan yn unig o’r stori yw’r lluniadau llonydd. Amrywiaeth gweadau’r afon yw’r peth mwyaf amlwg ar hyd ei chwrs. Ei gwahanol begynau yw’r enghreifftiau mwyaf dramatig - y dechreuad diarffordd, corslyd a’r diwedd diwydiannol cyflym.

Mae’r afon yn hollol wahanol ar ei ffurf sain. Mae sŵn yn cael ei greu gan rwystrau ar wely’r afon ac er ein bod yn dechrau gwau’r darnau at ei gilydd, mae’r afon yn dal i lithro o’n gafael.

Mae amrywiaeth y cyfryngau’n adlewyrchu ymatebion unigol yr artistiaid i’r afon a, drwy gasglu’r gwaith at ei gilydd, rhoddir syniad i’r gynulleidfa o gymhlethdod bodolaeth fyrhoedlog y ffenomenon naturiol hon. Mae’r gwaith aml ddisgyblaeth hefyd yn rhoi golwg fwy realistig o nodweddion aml wynebog yr afon a’i symudiadau rhythmig. Mae hanesion daearyddol a diwylliannol yn ystyriaethau pellach a hefyd, y ffyrdd y gellid dangos yr afon. Drwy’r gweithiau hyn, mae’r artistiaid yn gobeithio y bydd y gynulleidfa’n dechrau gwerthfawrogi’r angen am gynyddu ymwybyddiaeth, ac y gallem ddechrau holi ynghylch ein sefyllfa mewn perthynas â’r hyn sydd o’n cwmpas.

Mae Oriel Davies yn ddiolchgar i Sefydliad Esmée Fairbairn am gefnogi’r fenter hon yn hael.
 

Test Bed Logo Yn cefnogi gwaith newydd ac arbrofol sy’n cael ei ddatblygu gan artistiaid yng Nghymru a’r Gororau.