The Crystal World
Pia Borg
11 Chwefror 2012 - 18 Ebrill 2012
Image 1 of 3 next > Pia Borg, The Crystal World, Studio still 2012
Mae Pia Borg yn defnyddio ffilm symudiadstop a choreograffi digwyddiadau byw i archwilio gweledigaethau cyfoes a hanesyddol hynod o’r dyfodol; yn aml, mae’r prif gymeriadau yn chwarae rolau dirgel a chythryblus.
Trwy gyfuno cyfnodau cyferbyniol o amser, ynghyd â chyfeiriadau diwylliannol a symbolaeth gwahanol, mae Borg yn chwarae gydag agweddau o’r atgof a’r cof, ac yn creu amwyster rhwng y gwir a'r rhithwir.
Mae Borg wedi creu gosodiad ffilm newydd ar gyfer yr arddangosfa hon, sy’n dwyn ysbrydoliaeth o nofel ffuglen wyddonol dystopaidd J.G.Ballard, The Crystal World. Yn fersiwn Borg, mae tyfiant crisial yn cael ei 'animeiddio i fywyd', ac yn tarfu ar olygfeydd o’r ffilm 1955 eiconig, The Night of the Hunter. Trwy osod animeiddio a darnau o ffilm go iawn ar ben ei gilydd, mae amgylchedd prismatig dryslyd yn cael ei greu, sy’n annog y gwyliwr i fyfyrio ar amser a realiti. Mae pryder Borg gydag amser a'r byw a’r difywyd yn cael ei archwilio ymhellach yn yr arddangosfa, trwy bedwar darn arall o waith - Scaffold (2010), gosodiad dolen 16mm diptych; The Automaton (2008); Palimpsest (2009), gwaith buddugol, RE:animate, Arddangosfa Agored Oriel Davies 2010 a Footnote (2004), a gafodd ei sgrinio yn Cannes yn 2004.
Ganed Pia Borg yn Awstralia ac ar hyn o bryd, mae hi'n byw yn Llundain. Enillodd y wobr gyntaf yn RE:animate, Arddangosfa Agored Oriel Davies 2010, a rhoddwyd yr arddangosfa hon iddi fel rhan o’i gwobr. The Crystal World yw ei harddangosfa unigol gyntaf yn y Deyrnas Unedig.






