Back of an Envelope
Imagined Machines
10 Medi 2011 - 16 Tachwedd 2011
Image 1 of 6 next >
Brasluniau o ddyfeisiau trydanol a mecanyddol wedi'u trefnu gan Margaret Sharrow
Byddwn ni’n defnyddio’r ymadrodd 'cefn amlen' i gyfeirio at yr arfer ffwrdd-a-hi hwnnw o gofnodi syniadau ar damaid o bapur sy’n digwydd bod wrth law, er enghraifft hen amlen, ond sydd o bryd i’w gilydd yn arwain at rywbeth gwirioneddol syfrdanol. Mae yna lawer o syniadau am ddyfeisiadau difyr wedi codi o isymwybod pobl wrth iddyn nhw chwarae neu wrth i’w meddyliau grwydro, pan fydd eu meddwl yn ymdrin â’r broses o greu syniadau yn hytrach nag yn cyrchu canlyniadau. Er bod llawer o waith bellach yn cael ei wneud ar gyfrifiadur mae dylunwyr creadigol, artistiaid a dyfeiswyr yn dal i ddefnyddio brasluniau i roi ffurf ar syniadau gweledol ac i’w cyfathrebu. Mae llyfr brasluniau artist yn ddatblygiad ar egwyddor anffurfiol yr amlen ac yn rhan bwysig o’r broses ymchwilio a chofnodi syniadau. Braslunio ydi’r dull mwyaf cyflym ac uniongyrchol o fynegi syniad gweledol, o roi cynnig ar ddylunio rhywbeth.
Mae Leonardo da Vinci yn enghraifft adnabyddus o artist-ddyfeisiwr a oedd yn darlunio peiriannau. Yn y degawdau diwethaf mae celf cinetig wedi cyflwyno i ni gerfluniau sy’n symud, a’r rheiny’n aml yn beiriannol eu naws. Mae artistiaid sy’n gweithio yn y maes yn dibynnu’n aml ar frasluniau i droi eu syniadau’n greadigaethau tri dimensiwn – artistiaid megis Alexander Calder a Rebecca Horn er enghraifft. Roedd rhai o gerfluniau mecanyddol Jean Tinguely’n gwneud marciau haniaethol ar bapur. Ac mae Patrick Tresset wedi gwyrdroi’r broses o ddechrau gyda braslun a chreu yr hyn y mae o’n ei alw’n ‘robotiaid afrosgo’ sydd eu hunain yn creu brasluniau, o wynebau dynol.
Ar gyfer yr arddangosfa yma fe ofynnwyd i’r artistiaid ddefnyddio amlen i greu braslun o beiriant dychmygol, boed hwnnw’n beiriant dichonadwy neu beidio. Roedd y gwaith a ddaeth gan rai yn chwareus, gan rai eraill yn amrywio o’r ymarferol i’r ffantasïol ac o’r digrif i’r anghyfforddus, ac ambell un yn portreadu manylion mecanyddol heb unrhyw gyfeiriad at weithgarwch. Fe ddywedodd Paul Klee bod rhywun, wrth dynnu llun, yn 'mynd â llinell am dro'.
Margaret Sharrow (TestBed Intern)
Yn cefnogi gwaith newydd ac arbrofol sy’n cael ei ddatblygu gan artistiaid yng Nghymru a’r Gororau.






