Arm Around You
Sibyl Montague
11 Chwefror 2012 - 18 Ebrill 2012
Image 1 of 2 next > Sibyl Montague, Arm Around You (work in progress)
Mae Sibyl Montague yn gweithio gyda fideo, gosodiadau a cherfluniau i archwilio’r berthynas rhwng materoldeb, proses, hyd a gweithredu.
Mae Montague yn defnyddio deunyddiau pob dydd megis cerdyn, plastig, coed, paent a dur fel elfennau cerfluniol i greu amgylcheddau safle - benodol. Mae gwrthrychau’n ffurfio perthnasau cythryblus o fewn yr amgylcheddau hyn ac yn creu awyrgylch od, lle ceir ymdeimlad o reolaeth ac anhrefn.
Cyflwynir y digwyddiad wedyn i’r gwyliwr mewn ffilm, sy’n dogfennu ac yn amlinellu’r haenau o gysylltiadau a’r cyd-destunau newidiol. Fel rhan o , mae Oriel Davies wedi comisiynu Montague i greu gwaith newydd o fewn gofod yr oriel. Dros gyfnod o amser, bydd yr artist yn cipio perthynas newidiol gwrthrychau a deunyddiau ar ffurf ffilm, o fewn amgylchedd safle-benodol yr oriel.
Mae'r arddangosfa hefyd yn nodi gwyriad diweddar yn ymarfer yr artist. Am y tro cyntaf, bydd yr artist yn arddangos gwrthrychau cerfluniol ochr yn ochr â'r darnau ffilm, ac yn cynnig dimensiwn ychwanegol i brofiad y gwyliwr.
Ganed Sibyl Montague yn Iwerddon ac ar hyn o bryd, mae hi’n byw ac yn gweithio yn Llundain. Yn ddiweddar, cwblhaodd MA mewn Celfyddyd Gain o Goleg Celf a Dylunio Chelsea. Enillodd Montague y wobr i fyfyrwyr yn RE:animate, Arddangosfa Agored Oriel Davies 2010, a rhoddwyd yr arddangosfa hon iddi fel rhan o'i gwobr. Arm Around You yw arddangosfa unigol gyntaf Montague.







