Tynnu Lluniau Drwy Arsylwi | Tereska Shepherd

4 Sesiynau | Dydd Mawrth 03, 17 Hydref a 07, 21 Tachwedd 2017 | 10am – 15.30pm
Tiwtor: Tereska Shepherd
Lleoliad: Oriel Davies
Y ffordd gyflymaf i ddatblygu sgiliau tynnu lluniau ydy dysgu i dynnu lluniau drwy arsylwi. Bydd y modiwl hwn yn dysgu’r gelfyddyd o edrych. Bydd y modiwl yn cynnwys persbectif, cyfansoddiad, arlunio tonyddol, chiaroscuro, y mesuriad sefydlog, mannau negyddol, gwneud marciau a rhagfyrhau. Byddwch hefyd yn cael eich annog i werthuso eich gwaith drwy hunanfeirniadaeth. Y nod yw rhoi'r sgiliau a'r ymarfer i chi ddechrau tynnu llun ond nid o reidrwydd, i gynhyrchu gweithiau gorffenedig. Byddwch yn gweithio gyda beiro, pensil, lloc, brwsh, conté a siarcol.
Cynhelir cyrsiau yn Oriel Davies ar y cyd ag Ysgol Addysg a Dysgu Gydol Oes, Prifysgol Cymru, Aberystwyth.
Tocynnau a Bwcio
Pris: £110.00 / Gostyngiadau: £90.00
Os hoffech ragor o wybodaeth neu i fwcio lle ar y cyrsiau, cysylltwch â’r Brifysgol yn uniongyrchol ar 01970 621580.
Class Code: CF105
This module is at CQFW Level 4
www.aber.ac.uk/en/lifelong-learning