Sgriniad o’r ffilm Sleep Furiously
Dydd Sadwrn, 28 Ionawr 2012
Sgriniad o’r ffilm Sleep Furiously a thrafodaeth gyda’r Cyfarwyddwr, Gideon Koppel a’r ysgrifennydd, Jay Griffiths
Dydd Sadwrn 28 Ionawr, 2-5yh
Sleep Furiously (90 munud) 2008 Ffilm gan Gideon Koppel gyda cherddoriaeth gan Aphex Twin
Ffilm ynghylch bywyd ym mhentref Trefeurig yng Nghanolbarth Cymru, sydd wedi ennill nifer o wobrau. Mae’r ffilm deimladwy hon, a gafodd ei galw’n ‘ffilm ddogfennol elfennol fwyaf prydferth sydd wedi cael ei chreu ym Mhrydain mewn mwy na degawd’, yn dilyn cymuned amaethyddol dros gyfnod o flwyddyn.
Mae’r sgriniad arbennig o’r ffilm, sy’n para am 90 munud, yn cael ei ddilyn gan gyfle na ddylid ei golli i glywed Gideon Koppel yn sgwrsio gyda’r awdur Jay Griffiths, a ysgrifennodd y nofel enwog, Wild.
Mae’r digwyddiad am ddim, ond bydd angen cadw lle yn gynnar gan fod llefydd yn brin. Ffon 01686 625041






