Seminar: Celf ac Animeiddio
Dydd Gwener, 17 Chwefror 2012
Dydd Gwener 17 Chwefror, 11yb – 3yh
Seminar: Celf ac Animeiddio Mewn partneriaeth â Phrifysgol Glyndwr a Phrifysgol Cymru, Casnewydd
Mae’r seminar hwn yn archwilio animeiddio mewn cyd-destun celf - yn arbennig animeiddio sydd ddim ar y sgrin: gosodiadau’r oriel, taflunio ar wrthrychau, cymwysiadau ffôn clyfar a gwaith safle penodol. Ar gyfer myfyrwyr, artistiaid, animeiddwyr a churaduron.
Cyfranwyr: Leonie Sharrock, Prifysgol Cymru, Casnewydd; Dan Berry, Prifysgol Glyndwr; Sean Vicary (bydd ei arddangosfa Lament, yn cael ei harddangos yng ngofod TestBed o 11 Chwefror - 18 Ebrill) a Steve Knight, ei gydweithiwr.
Mae llefydd yn brin, felly cadwch le yn gynnar rhag cael eich siomi. Ffi archebu £5






