Barddoniaeth 2 | Lara Clough

10 Sesiynau | Dydd Mercher 11 Ebrill– 13 Mehefin 2018 | 10.15am – ... mwy >

Special Event | Nicola Dale

Digwyddiad Arbennig: Ar ddydd Gwener, 22 Mehefin, rhwng 11am a 12.30pm, rydym yn cynnig sesiwn bywluniadu am ddim i dynnu llun un o artistiaid yr ... mwy >

Oriel Davies Open 2018 | Preview

Bydd Arddangosfa Agored Oriel Davies 2018 yn agor ar 23 Mehefin o 6 tan 8pm, a bydd y gwobrau’n cael eu cyhoeddi am ... mwy >

Oriel Davies Gallery
Y Parc, Y Drenewydd
Powys SY16 2NZ
Rhif ffôn: +44 (0) 1686 625041
Ffacs: +44 (0) 1686 623633
E-bost: desk@orieldavies.org
Llun-Sadwrn 10yb-5yh
Mynediad am ddim

Oriel Davies Open 2018 | Preview

Dydd Mawrth, 26 Mehefin 2018

Jack, Emerald Aisle, 2017

Bydd Arddangosfa Agored Oriel Davies 2018 yn agor ar 23 Mehefin o 6 tan 8pm, a bydd y gwobrau’n cael eu cyhoeddi am 7pm.

Bydd y detholwyr Sacha Craddock a Jane Simpson yn cyflwyno'r gwobrau ar gyfer yr enillydd cyffredinol a’r myfyriwr buddugol. Bydd yr artist Nicola Dale yn perfformio ei gwaith Model for Ideology rhwng 6-7pm.

Unwaith eto, bydd y wobr Dewis y Bobl yn rhan o Arddangosfa Agored Oriel Davies, a bydd yr artist sy'n derbyn y mwyafrif o bleidleisiau yn ennill gwobr ariannol o £250.

Mae’r pump ar y panel dethol wedi gweithio’n galed i ddewis yr hyn maen nhw'n ei ystyried i fod y gwaith mwyaf gwreiddiol a deniadol o blith cannoedd o geisiadau o bob cwr o'r byd. Mae dau ar hugain o artistiaid a chasgliadau artistiaid yn cael eu cynrychioli, gyda chyfran dda o'r rheiny o Gymru. Gyda'i gilydd, mae'r artistiaid hyn yn cyflwyno gwaith newydd a diweddar sy'n adlewyrchu amrywiaeth o ran arferion cyfoes - boed yn haniaethol neu'n ffigurol, yn gynrychiadol neu'n ddychmygo.

 Mae tair gwobr yn rhan o draddodiad Arddangosfa Agored Oriel Davies. Bydd enillydd y wobr gyffredinol yn derbyn gwobr ariannol o £1000 a gwahoddiad i gael sioe unigol yn Oriel Davies, a bydd enillydd y wobr i fyfyrwyr yn derbyn gwobr ariannol o £500; bydd y ddau ohonynt yn cael eu cyhoeddi yn yr agoriad. Bydd y Wobr Dewis y Bobl o £250, sy’n boblogaidd iawn, yn cael ei chyflwyno ar ddiwedd y sioe hefyd, i'r artist sydd yn derbyn y mwyafrif o bleidleisiau am ei waith. Dewch i enwebu'r gwaith y credwch y dylai ennill!

 Panel dethol ODO18: Sacha Craddock, awdur a churadur; Jane Simpson, artist a Chyfarwyddwr Galerie Simpson; Matthew Collings, Artist, Ysgrifennwr, Beirniad and Darlledwr; Steffan Jones-Hughes, Cyfarwyddwr, Oriel Davies ac Alex Boyd Jones Curadur, Oriel Davies.

Mae’r artistiaid sy’n arddangos yn cynnwys:

Exhibiting Artists:
Alice Briggs, Savinder BualNicola DaleShona DaviesKatharine FryDavid GarnerHenriette HeimdalNicholas HolmesBruce IngramCecile Johnson SolizJack KettlewellJon KleinDinu LiBethan Lloyd WorthingtonGweni LlwydAmanda LoomesGarry Loughlin, Rachel Magdeburg, Myles MansfieldMyken McDowell, Nicholas McLeodDave MonaghanJ.A. Nicholls, Judith Rees, Lizi SanchezLouise ShortNada VelickovicAlice Walter.