Moving Drawings
Dydd Mercher, 1 Medi 2010 - Dydd Gwener, 15 Hydref 2010
title image
Mae Rob Davies, Kim Gardner, Aled Hutchinson, Jenny Savage a Dean Warburton wedi bod yn cymryd rhan mewn Rhaglen Fentora’r Celfyddydau oedd yn cael ei rhedeg gan Celf o Gwmpas (Arts Round About), sy’n rhedeg prosiectau celfyddydau gweledol a pherfformio o ansawdd uchel ledled Powys, gan ychwanegu creadigrwydd, lliw ac ansawdd i fywyd. Mae’r rhaglen yn cynnig cyfle i’r artistiaid sy’n cael eu mentora i ddarganfod eu hunaniaeth a’u hunigolrwydd fel artistiaid proffesiynol sy’n arddangos. Drwy weithio mewn grŵp, a gydag ysgogiad amgylchedd stiwdio, y gofod, hygyrchedd deunyddiau a chyflwyniad i ystod eang o syniadau ysgogol, mae hyder yn cael ei adeiladu.
Ymwelodd y grŵp ag arddangosfa Artes Mundi 4 yn Amgueddfa Cymru - National Museum Wales, a chymrodd ran yn y rhaglen addysgol oedd yn cyd-fynd â hi. Mae Artes Mundi yn darparu cyfle i brofi mynegiant diwylliannol o bob cwr o’r byd. Canolbwyntiodd y grŵp ar Voyage of No Return a Liminal Crossing gan Ergin Çavuşoğlu a aned ym Mwlgaria, ac A New Silk Road gan Gulnara Kasmalieva a Muratbek Djumaliev. Ffilmiau oedd yr arddangosfeydd hyn i gyd, a thynnodd y grŵp luniau mewn ymateb i’r hyn a welsont. Canlyniad yw’r arddangosfa hon o broses o weithio ar y cyd rhwng Oriel Davies a Celf o Gwmpas, ac mae wedi cael ei churadu gan Kim Gardner.
Am ragor o wybodaeth ynghylch Celf o Gwmpas, ffoniwch: 01597 822777 neu anfonwch e-bost at: kayte@celfogwmpas.co.uk






