Gweithdai yn ystod Gwyliau’r Ysgol - Siglo, Rhuglo a Rholio gyda’r artist Amy Sterly

Dewch i gadw reiat! Edrychwch o gwmpas i ddod o hyd i synau mewn gwrthrychau bob dydd.  Byddwn yn gwneud ein hofferynnau ein hunain i fynd ... mwy >

I Mewn ac Allan o’r Stiwdio | Tereska Shepherd

A hoffech chi gadw a datblygu llyfr braslunio llwyddiannus? Bydd y cwrs hwn yn rhoi cyfle i chi ddatblygu sgiliau braslunio a'r prosesau o gadw ... mwy >

Digwyddiad dathlu - Cystadleuaeth Ysgrifennu Agored Oriel Davies

Mae’n bleser gan Oriel Davies gyhoeddi enillwyr Cystadleuaeth Ysgrifennu Agored Oriel Davies 2017, a fydd yn cael ei ddathlu mewn digwyddiad fydd ... mwy >

Oriel Davies Gallery
Y Parc, Y Drenewydd
Powys SY16 2NZ
Rhif ffôn: +44 (0) 1686 625041
Ffacs: +44 (0) 1686 623633
E-bost: desk@orieldavies.org
Llun-Sadwrn 10yb-5yh
Mynediad am ddim

Digwyddiad dathlu - Cystadleuaeth Ysgrifennu Agored Oriel Davies

Dydd Sadwrn, 24 Chwefror 2018

Mae’n bleser gan Oriel Davies gyhoeddi enillwyr Cystadleuaeth Ysgrifennu Agored Oriel Davies 2017, a fydd yn cael ei ddathlu mewn digwyddiad fydd yn cael ei gynnal ar 24 Chwefror yn yr Oriel.

Y tro hwn, gwahoddodd y gystadleuaeth awduron i gyflwyno barddoniaeth a rhyddiaith ar y thema Dŵr.

Cafodd y beirniaid, sef y bardd natur, Chris Kinsey a Sophie McKeand, Awdur Pobl Ifanc Cymru, sialens heriol, eto bleserus, yn darllen trwy'r nifer o geisiadau i ddewis yr enillwyr, yn ogystal â'r rhai hynny oedd yn haeddiannol i dderbyn canmoliaeth arbennig.

Digwyddiad dathlu

Bydd enillwyr y cystadlaethau, yn ogystal â llawer o'r rhai hynny sydd wedi derbyn canmoliaeth arbennig,  yn dod at ei gilydd i ddathlu eu gwaith mewn digwyddiad arbennig yn Oriel Davies.

Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal ddydd Sadwrn 24 Chwefror, o 2.30 tan 4pm, a bydd yn cael ei arwain gan Chris Kinsey.  Bydd cost o £3 am y tocynnau (am ddim i ymgeiswyr).

Rhaid bwcio lle, gan fod llefydd yn brin - 01686 625041, desk@orieldavies.org.