Gyda bwydlen dymhorol ysbrydoledig o gawl cartref blasus, salad, quiches a phrydau arbennig y dydd, a golygfeydd tuag at y bryniau dros y Drenewydd, mae’r caffi golau, llachar yn Oriel Davies yn le gwych i fwyta, i yfed ac i gyfarfod ffrindiau. Yn ystod misoedd yr Haf, mae’r Caffi yn ymestyn ar y teras, sy’n galluogi ymwelwyr i fwyta yn yr awyr agored. Mae’r Caffi wedi’i drwyddedu, ac mae’n cynnig cwrw a gwinoedd o ansawdd, diodydd swigod organig, cordialau a the a choffi.
Amseroedd agor Llun - Sadwrn 10.30yb - 4yh
Mae Caffi Oriel Davies ar agor yn ystod y cyfnod pan gaiff arddangosfeydd eu gosod yn yr oriel. Am ragor o wybodaeth neu i fwcio, ffoniwch Elly Ambler, Caffi, yn uniongyrchol ar 01686 622288
Llogi ystafell arlwyo
Yn ystod oriau agor arferol, gallai Caffi Oriel Davies ddarparu diodydd a bwffe yn yr ystafell gyfarfod. Ffoniwch Caffi yn uniongyrchol ar 01686 622288 i drafod eich anghenion arlwyo ac unrhyw ofynion dietegol arbennig cyn dychwelyd y Ffurflen Archebu Arlwyaeth. Ffurflen archebu arlwyaeth >






