Oriel Davies Gallery
Y Parc, Y Drenewydd
Powys SY16 2NZ
Rhif ffôn: +44 (0) 1686 625041
Ffacs: +44 (0) 1686 623633
E-bost: desk@orieldavies.org

 

MAE'R ORIEL AR GAU NES BYDD RHYDUDD PELLACH

Ni allwn ymateb i alwadau ffôn

Os oes angen i chi gysylltu â ni ar frys:
e-bost:
 
Cyfrifon: cyfrifon@orieldavies.org
Cyfarwyddwr: steffan@orieldavies.org
+44 (0)7498 570217
 

Gareth Griffith

18/01/20 – 01/04/20

Melvyn Evans

18/03/20 - 18/07/20

Llun-Gwener 10yb-5yh
Sadwrn 10yb-5yh

 

 

 

Archif

Mae Oriel Davies yn datblygu’r archif hwn i’r rhai hynny sy’n archwilio’r celfyddydau gweledol ac addysg gelfyddydol. Gellir chwilio drwy’r archif, sydd wedi’i rannu mewn i arddangosfeydd, prosiectau Test Bed drwy ddefnyddio’r bar chwilio isod neu drwy bori drwy dudalennau’r archif.

Oriel y Caffi
Marion Elliot

Oriel y Caffi Yr haf hwn mae gennym le newydd i arddangos gwaith gan artistiaid lleol a darlunwyr a gwneuthurwyr printiau rhyngwladol. Drwy newid ardal y caffi, rydym wedi creu'r gofod newydd hwn. Ein hartist gyntaf yw Marion Elliot, sydd hefyd wedi'i chomisiynu i ddathlu Canmlwyddiant MCRA. Nid yn unig y byddwch yn gweld gwaith yn y caffi ond fe welwch hefyd enghreifftiau o'i gwaith o amgylch yr adeilad. mwy >

Arddangosfa 2019 22 Mehefin - 21 Medi

Proses: Gwaith Myfyrwyr o'r NPTC
Group Exhibition

Ym maes Celf a Dylunio, fe'i disgrifir fel cyfres o weithrediadau neu gamau creadigol a gymerir er mwyn cyflawni nod penodol, beth bynnag y ddisgyblaeth dan sylw; Celfyddyd Gain, Dylunio 3D, Ffasiwn, Tecstilau, Ffotograffiaeth, Graffeg ac ati. Mae llawer o fanteision i'r broses greadigol ei hun. Yn ogystal â datblygu'r gallu i drin a thrafod deunyddiau'n allanol, mae proses greadigol fewnol hefyd yn digwydd wrth i sgiliau ymchwilio, meddwl a dadansoddi gael eu datblygu. Mae'r meysydd datblygu sgiliau hyn yn gynsail i lawer o'r gweithgareddau y mae dysgwyr yn cymryd rhan ynddynt wrth astudio yn yr Adran Celf a Dylunio yng Ngholeg Y Drenewydd. mwy >

Arddangosfa 2019 08 Mehefin - 19 Mehefin

Migrations Dance Film
Various

Rhaglen chwarterol o Ffilmiau Dawns sydd yn cael eu dangos ar y sgrîn yng nghyntedd Oriel Davies. Mae Migrations’ Dance Film yn dangos rhai o'r darnau dawns gorau o bob cwr o'r byd, sy’n gymysgedd o waith arloesol gan brif gyfarwyddwyr a choreograffwyr, ac yn ddetholiad o'r artistiaid arobryn gorau yn y byd dawns ar hyn o bryd. mwy >

Arddangosfa 2019 01 Mai - 31 Gorffennaf

In Between the Folds are Particles
Anna Falcini

Mae corff cymhellol o waith newydd yn sôn am sgwrs barhaus rhwng yr artist cyfoes, Anna Falcini, a'r artist, Gwen John (1876 -1939) o Gymru, trwy archif llythyrau a dyddiaduron drafft John yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth. mwy >

Arddangosfa 2019 06 Ebrill - 05 Mehefin

Flexuous
Sophie Kumar-Taylor

Mae Flexuous yn gomisiwn celf arbennig wedi ei greu gan Sophie Kumar-Taylor. Mae'r comisiwn Criw Celf yma'n dathlu llwyddiannau Sophie fel artist yn ei gyrfa cynnar, ac yn darparu cyfle iddi greu darn o waith safle-benodol yn Oriel Davies - y lleoliad celfyddydau gweledol mwyaf ei faint a mwyaf arwyddocaol yn y rhanbarth, sy'n oriel allweddol yng Nghymru. mwy >

Arddangosfa 2019 09 Mawrth - 30 Mawrth