Archif
Mae Oriel Davies yn datblygu’r archif hwn i’r rhai hynny sy’n archwilio’r celfyddydau gweledol ac addysg gelfyddydol. Gellir chwilio drwy’r archif, sydd wedi’i rannu mewn i arddangosfeydd, prosiectau Test Bed drwy ddefnyddio’r bar chwilio isod neu drwy bori drwy dudalennau’r archif.

Lament
Sean Vicary
Yn 'Lament', prosiect cydweithredol a rhyngddisgyblaethol ar ddelweddau symudol, mae Sean Vicary wedi cyfuno gwrthrychau safle-benodol a ddarganfuwyd, animeiddio, barddoniaeth a cherddoriaeth i archwilio gororau Cymru / Sir Amwythig. mwy >
Test Bed 2012 11 Chwefror - 18 Ebrill

Hearth and Hill
Rebecca Spooner
Mae gofod arddangosfa TestBed Oriel Davies wedi cael ei drawsnewid yn ficroamgylchedd amlsynnwyr gan osodiad cyfoethog Rebecca Spooner o ffilm, ffotograffiaeth a gwrthrychau a ddarganfuwyd o’r amgylchedd naturiol. mwy >
Test Bed 2011 26 Tachwedd - 01 Chwefror

Back of an Envelope
Imagined Machines
Brasluniau o ddyfeisiau trydanol a mecanyddol wedi'u trefnu gan Margaret Sharrow mwy >
Test Bed 2011 10 Medi - 16 Tachwedd
Wotan
Christopher Webster van Tonder
Mae gludwaith tywyll, tebyg i freuddwyd, o eitemau fel cipluniau o deuluoedd a ffilmiau cartref a ddarganfuwyd, ynghyd â chyfoeth o symbolau dirgel wedi’u gorchuddio ag animeiddio a wnaethpwyd â llaw, yn nodweddu'r gwaith newydd hwn gan Christopher Webster van Tonder. mwy >
Test Bed 2011 16 Gorffennaf - 31 Awst

Aggregates
Jonathan Anderson
Mae Jonathan Anderson yn defnyddio deunyddiau wedi'u hailgylchu megis pren haenog a llwch glo i greu gweithiau cyfrwng cymysg o’r enw mandalâu, cyfeiriad at ddelweddau patrymog crwn a gynhyrchwyd ar gyfer dibenion defosiynol mewn Bwdhaeth a chrefyddau eraill o Ddwyrain Asia. mwy >
Test Bed 2011 16 Ebrill - 06 Gorffennaf






