Dosbarth Bywluniadu Arbennig! Digwyddiad Braslunio Cabaret Arbennig Oriel Davies

Dewch i dreulio’r diwrnod yn tynnu llun y ffigwr dynol-ond gyda thro y tro hwn. Ar ôl digwyddiad hynod lwyddiannus y llynedd, rydym yn ... mwy >

Tynnu Lluniau Drwy Arsylwi | Tereska Shepherd

4 Sesiynau | Dydd Mawrth 03, 17 Hydref a 07, 21 Tachwedd 2017 | 10am – ... mwy >

Dosbarthiadau Bywluniadu ar ddydd Sadwrn gyda Caroline Ali

Mae'r sesiynau difyr hyn, gyda thiwtor, yn annog cryfderau unigol, tra’n archwilio agweddau gwahanol o dynnu llun y ffigwr dynol. Mae'r ... mwy >

Oriel Davies Gallery
Y Parc, Y Drenewydd
Powys SY16 2NZ
Rhif ffôn: +44 (0) 1686 625041
Ffacs: +44 (0) 1686 623633
E-bost: desk@orieldavies.org
Llun-Sadwrn 10yb-5yh
Mynediad am ddim

Arddangosfa Agored Oriel Davies 2014

artistiaid o bob rhan o’r byd

19 Ebrill 2014 - 18 Mehefin 2014

Image 1 of 4 next >   Conrad Peck

We are very proud and excited to announce the 60 artists who have been selected to exhibit as part of the Oriel Davies Open 2014. Individual prize-winners will be announced at the opening.

Yn dilyn yr ymateb llethol i'n galwad am geisiadau, mae Oriel Davies yn falch iawn o gyflwyno detholiad gwych o weithiau celf gan 60 o artistiaid yn ein harddangosfa Agored fwyaf erioed.

Mae'r arddangosfa, sy’n dathlu synwyrusrwydd Arddangosfa Agored, yn cynnwys gwaith gan artistiaid sefydledig, myfyrwyr celf a thalent eraill sy'n datblygu, ac yn dangos ehangder ac amrywiaeth arfer artistig presennol.

Artistiaid sy’n arddangos :

Caroline Allen, Kay Bainbridge, Jenny Baines, Kelly Best, Richard Bowers, Sasha Bowles, Jessie Brennan, Rachel Busby, Jane Cairns, Agnes Calf, Robert Cervera, David Cushway, Hannah Downing, Nisha Duggal, James Epps, Bob Gelsthorpe, Anne Gibbs, Thomas Goddard, Alastair John Gordon, Nigel Grimmer, Richard Higlett, Kathryn Hinton, Jim Howieson, Sarah Hughes, Shaun James, Neil Jones, Bernadette Kerrigan, Jin Eui Kim, John Lawrence, Sharon Leahy-Clark, Lawrence Leaman, Hywel Livingstone, Rosanna Martin, Eva Masterman, Guy Mayman, Neil McNally, Jackie Morris, Conrad Pack, Bharti Parmar, Susan Phillips, Nicole Polonsky, Chris Poolman & Elizabeth Rowe, Sara Rees, Ruaidhri Ryan, Abigail Sidebotham, Howard Silverman, Rebecca Sitar, Kristian Smith, Helen Snell, Josephine Sowden, André Stitt, Joan Sugrue, David Theobald, Charlie Godet Thomas, Clare Thornton, Alana Tyson, Paul Westcombe, Hanne Westergaard, Gwyn Williams, Maarten van den Bos.

Bydd digwyddiad lansio ar y noson agoriadol yn cyhoeddi enillydd y brif wobr a’r wobr i fyfyrwyr, a ddewisir gan ddetholwyr Arddangosfa Agored 2014, Deirdre Figueiredo (Cyfarwyddwr, Craftspace ), Helen Legg (Cyfarwyddwr, Spike Island), Anthony Shapland (Artist a Chyd-gyfarwyddwr g39 ) ac Alex Boyd Jones ( Curadur, Oriel Davies) .

Hoffem ddiolch i bawb a ymgeisiodd i gymryd rhan yn Arddangosfa Agored eleni.

Gwobr 1af £1000 + arddangosfa unigol

Gwobr 1af Myfyrwyr £500

Bydd yr enillydd wobr gyffredinol 1af yn cael cynnig arddangosfa unigol yn Oriel Davies yn ogystal â derbyn eu gwobr arian parod.

Dewis y Bobl £250
Yn cael ei ddyfarnu i’r gweithiau neu’r casgliad o weithiau mwyaf poblogaidd yn arddangosfeydd agored 2014, fel y pleidleisiwyd gan y cyhoedd yn ystod cyfnod yr arddangosfa.

Mae Oriel Davies yn chwilio am geisiadau gan artistiaid sy’n gweithio mewn unrhyw gyfrwng.  Mae hyn yn cynnwys: perfformiad, sain, digidol, gosodiad, paentiad, cerflun, print, ffotograffiaeth a delwedd symudol, celf a chrefft cymhwyso.  Bydd yr arddangosfa’n cael ei dangos yn Oriel Davies Gallery o 26 Ebrill tan 18 Mehefin 2014. Nid oes unrhyw gyfyngiad daearyddol, ac mae ceisiadau ar agor i artistiaid proffesiynol ac i fyfyrwyr (17+) sydd yn hyfforddi ym maes celf gweledol ar hyn o bryd.

Detholwyr

Anthony Shapland Artist a Chyd-gyfarwyddwr, g39, Caerdydd
www.anthonyshapland.com / www.g39.org

Deidre Figueiredo MBE Cyfarwyddwr, Craftspace, Birmingham
www.craftspace.co.uk

Helen Legg Cyfarwyddwr, Spike Island, Bristol
www.spikeisland.org.uk

Alex Boyd Jones Curadur, Oriel Davies Gallery
www.orieldavies.org

Dilynwch ni ar twitter @orieldavies #ODGopen2014

Dewch i’n gweld ni ar gweplyfr/orieldavies.org

Mae Oriel Davies yn ymestyn diolch cynnes i haelioni o Imprint, Y Drenewydd am eu cefnogaeth o Arddangosfa Agored Oriel Davies 2014,  a Newtown Station Travel am y wobr Dewis y Bobl.